Aelodau Pwyllgor Cymru

Dyddiad cau: 12pm dydd Iau 12 Ebrill 2012
Cynhelir cyfweliadau dydd Gwener 25 Mai 2012

Mae pwyllgor Cymru, a gadeirir gan Ann Beynon, Gomisiynydd Cymru, yn darparu persbectifau deallus, diduedd a chytbwys ar amrediad o faterion sensitif a chymhleth. Mae angen i aelodau’r Pwyllgor ddeall y cyd-destun cymdeithasol, economaidd a chyfreithiol yng Nghymru a bod yn gallu gweithredu hwn er mwyn darparu gwybodaeth ar gyfer blaenoriaethau’r EHRC yng Nghymru. Maent yn gyfrifol am:

  • Oruchwylio ac arwain gwaith yr EHRC yng Nghymru;
  • Cynghori Bwrdd PF yr EHRC ynghylch y ffordd mae ei bolisïau a rhaglenni’n effeithio ar bobl sy’n byw yng Nghymru;
  • Cyfrannu at weithredu cynllun strategol tair blynedd newydd y Comisiwn;
  • Cynghori Llywodraeth Cymru ar yr holl faterion sy’n perthyn i ddeddfwriaeth Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn unol â’n hymrwymiadau sy’n deillio o Ddeddf Cydraddoldeb 2006.

Mae’r Pwyllgor yn sicrhau bod yr EHRC yn cyflawni ei swyddogaethau mewn modd sy’n briodol i Gymru ac y gall Bwrdd yr EHRC ddysgu gan brofiad Cymru o gydraddoldeb a hawliau dynol. Mae aelodau’r Pwyllgor yn cefnogi Comisiynydd Cymru wrth gyflawni’r swyddogaethau hynny a ddirprwyir i Bwyllgor Cymru.

Pam ddylech chi fod yn Aelod o Bwyllgor Cymru’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol?

Mae bod yn Aelod Pwyllgor yn cynnig cyfle unigryw ichi i ddylanwadu ar yr agenda hawliau dynol yng Nghymru. Mae’r rôl hon yn ymwneud â gweithio’n greadigol i  daclo gwahaniaethu a hyrwyddo hawliau dynol yng Nghymru. Ar yr un pryd, byddwch yn cymryd rhan bwysig o ran meithrin llais arbennig i Gymru yn un o sefydliadau craffaf Prydain.

Yr hyn a ddywedodd Aelodau Pwyllgor am y rôl:

“Mae bod yn Aelod Pwyllgor yn rhoi cyfle i wneud cysylltiadau newydd yn ogystal â datblygu eich sgiliau personol a chymryd rhan mewn trafodaethau sydd yn ysgogi meddwl ynglŷn â materion cydraddoldeb.”

  • “Rydym yn sicrhau bod gwaith y CCHD yn briodol ac yn ymateb i anghenion pobl yng Nghymru.”
  • “Mae cwrdd â phobl o gefndiroedd amrywiol yn ysbrydoli rhywun ac rwy’n siŵr ein bod ni’n gweithio tuag at Gymru sydd yn gysurus â’i hun.”
  • “Gwneud gwahaniaeth yw’r bwriad.”

Yn ogystal â rhoi cymorth i Gomisiynydd Cymru, mae’r Pwyllgor yn cadw golwg ar ddatblygiad a chyflawniad blaenoriaethau strategol yng Nghymru, yn cynghori Llywodraeth Cymru ac yn cynrychioli’r CCHD yng Nghymru drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid a chymunedau.

Er mwyn inni eich ystyried, bydd rhaid ichi ddangos dealltwriaeth o’r agenda cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru a Phrydain. Rydym yn edrych am brofiad o ran datblygu polisi mewn amgylcheddau gwleidyddol a chyfreithiol cymhleth yn ogystal â dealltwriaeth o gyd-destun datganoli o ran y gyfraith, diwylliant, economi a chymdeithas ynghyd ag ymrwymiad i drefn lywodraethol dda.

Nodwch, os gwelwch yn dda, y bydd y penodiad am gyfnod rhwng dwy a phum mlynedd o hyd ac yn destun i asesiad perfformiad blynyddol ar ôl dwy flynedd.

12 diwrnod y flwyddyn - £250 y diwrnod + treuliau

Rydym yn awyddus i benodi ar gyfer un swydd wag yn ddi-oed ac i nodi ymgeiswyr ar gyfer swyddi gwag eraill a fydd yn codi yn ystod 2012.

Os oes gennych unrhyw ofnion penodol i’ch galluogi i gyflawni’r broses gais a wnewch chi gysylltu â’r Tîm Recriwtio os gwelwch yn dda ar 0161 829 8344 (ffôn testun 0161 829 8341). Gallwn ddarparu manylion swyddi gwag mewn amryw o fformatau hygyrch.

back to top