Ein Cynllun Busnes

Cynllun Busnes 2012/13

Pleser o’r mwyaf yw cyhoeddi ein Cynllun Busnes ar gyfer 2012/13. Y llynedd, cyflawnodd y Comisiwn rai o’i orchwylion pwysicaf, hyd yn hyn. Mae’r ymchwiliadau arloesol i ofal cartref, aflonyddu ar sail anabledd a marchnata pobl, ynghyd â’n hadolygiad hawliau dynol a chamau cyfreithiol i gyd yn enghreifftiau o’r rhain. Eleni, hefyd, yw blwyddyn gyntaf ein cynllun strategol cyfredol a’r cyfnod y byddwn yn newid y Comisiwn yn sylfaenol.

Mwy ynglŷn â’r cynllun

Mae mesurau darbodus ac agendau polisi’r llywodraeth yn newid wyneb y sector cyhoeddus a’r modd y cyflenwir gwasanaethau cyhoeddus gan ystod o sefydliadau.

Rydym, eisoes, wedi dechrau ail ganolbwyntio’n gweithgareddau tuag at weithio ag eraill mewn rôl sy’n fwy galluogol ac sy’n sicrhau cymaint â phosibl o werth i’r cyhoedd. Bydd y gwaith a gyflenwir gennym yn 2012/13 yn adlewyrchu’r newid hwn o ran ffocws.

Mae’r Comisiwn, fel sefydliadau sector cyhoeddus eraill, yn wynebu’r her o weithredu â chyllideb sydd wedi’i chwtogi’n fawr. O ganlyniad, bydd y cynllun eleni yn canolbwyntio ar lai o weithgareddau ond ar y rhai, serch hynny, a fydd yn creu’r effeithiau mwyaf.

Mae ein rhaglen gwaith a luniwyd ar gyfer 2012-13 yn gymorth i ni gyflawni ein cynllun strategol o ran y meysydd a ganlyn:

  • Cyflawni’r newidiadau sydd eu hangen i lywio’r Comisiwn yn y dyfodol
  • Rhoi sylw pellach i’r gwaith pwysig a gwblhawyd yn y deuddeg mis diwethaf
  • Gosod y sylfeini ar gyfer gweddill cyfnod y cynllun strategol.

 

Cynllun Busnes 2011/12

Rydym yn falch i ddatgan inni gyhoeddi ein Cynllun Busnes ar gyfer 2011/12. Mae’r cynllun eleni yn canolbwyntio ar lai o weithgareddau ond y rhai a fydd â’r effaith fwyaf i wneud y defnydd gorau o’n hadnoddau sy wedi lleihau. Mae wedi’i fwydo gan amcanion a oedd o fewn cynllun strategol 2009/12, tystiolaeth o’r adolygiad teirblwydd, gofynion deddfwriaethol a’n hymrwymiadau presennol megis materion yn canlyn cyn-ymchwiliadau ac asesiadau.

Mwy ynglŷn â’r cynllun

Rydym eisoes wedi dechrau llunio ein cynllun strategol newydd ar gyfer 2012/15 a diwygio ein hunain i fod yn sefydliad sylweddol teneuach a mwy effeithiol. Ystyriwyd hyn wrth lunio’r Cynllun Gwaith. Darllenwch gyflwyniad i’r cynllun gan ein Prif Weithredwr dros dro.

Mae ein rhaglen waith ar gyfer 2011/12 yn canolbwyntio ar y meysydd a ganlyn:

  • Arfer ein pwerau statudol a chyfrifoldebau rheoleiddio, sy’n cynnwys:
    • Ei gwneud hi’n haws i gyflogwyr a darparwyr gwasanaeth gynnwys y Ddeddf Cydraddoldeb
    • Gwella deilliannau cydraddoldeb a hawliau dynol drwy helpu unigolion a chodi safonau trefn
    • Hybu hawliau dynol
  • Adeiladu’r sylfaen tystiolaeth ar gyfer rheoleiddio effeithiol
  • Cyflogaeth: Adferiad teg a chydradd
  • Diwygio’r Comisiwn i fod yn fwy effeithlon ac effeithiol

Cysylltu â ni

Os ydych angen ein cynllun busnes mewn fformat amgenach, wnewch chi gysylltu â’n llinell gymorth.

Os hoffech wybodaeth bellach am ein cynllun busnes, neu roi sylw arno, anfonwch e-bost i businessplanning@equalityhumanrights.com neu ysgrifennu at:

Business Planning Team
Equality and Human Rights Commission
2nd Floor Arndale House
Arndale Centre
Manchester
M4 3AQ
Neu allwch ffonio’n llinell gymorth.
 

Cyflwyniad gan ein Prif Weithredwr

The year 2011/12 is a transitional one for the Equality and Human Rights Commission (the Commission). We will be creating a new strategic plan for 2012-15, developing a new vision for 2015 and reforming ourselves to become a significantly leaner, more effective organisation.

The Board and Resources Committee have approved the 2011/12 business plan which takes account of the resources we will need to devote to the reform and strategic planning processes. It also seeks to balance the Commissions formal regulatory work with an enhanced level of promotional and advocacy work, particularly in human rights, reflecting our role and responsibilities as an A status National Human Rights Institution (NHRI).

The Commission is responsible for ensuring that the bodies which we regulate work by both the letter and the spirit of the law in order to raise organisational practice and standards and improve outcomes for individuals in equality and human rights.

In delivering this plan we will take an outcome-focused approach to our work, using a range of regulatory tools in addition to our legal compliance instruments. This approach means that we will work collaboratively with other bodies, regulators, industry leaders and professional organisations. It also outlines how we will use information and analyses to build our evidence base, which we will share with others to help set standards and encourage good practice.

Underpinning this high-level plan are detailed work plans, which set out deliverables, outcomes and measures for each of our activities. These will form the basis of the personal objectives of each group and national director, bringing a clear link between the business plan and individual performance management. These will then cascade down to cover each member of staff as part of a strengthened performance management framework being introduced from 1 April 2011.

Helen Hughes
Interim Chief Executive
Equality and Human Rights Commission

Cynlluniau busnes blaenorol

Ein Cynllun Busnes 2009/10

back to top