Dyma’r ail gynllun corfforaethol blynyddol fel y gall y Comisiwn gyflawni’r blaenoriaethau a nodwyd yn ein Cynllun Strategol 2012/15. Mae’n adeiladu ar waith y flwyddyn flaenorol yn ogystal â meysydd newydd a fydd yn ategu’r blaenoriaethau strategol hyn ac yn helpu cyflawni cynnydd gwirioneddol ar gydraddoldeb a hawliau dynol.
Pleser o’r mwyaf yw cyhoeddi ein Cynllun Busnes ar gyfer 2012/13. Y llynedd, cyflawnodd y Comisiwn rai o’i orchwylion pwysicaf, hyd yn hyn. Mae’r ymchwiliadau arloesol i ofal cartref, aflonyddu ar sail anabledd a marchnata pobl, ynghyd â’n hadolygiad hawliau dynol a chamau cyfreithiol i gyd yn enghreifftiau o’r rhain. Eleni, hefyd, yw blwyddyn gyntaf ein cynllun strategol cyfredol a’r cyfnod y byddwn yn newid y Comisiwn yn sylfaenol.
Mae mesurau darbodus ac agendau polisi’r llywodraeth yn newid wyneb y sector cyhoeddus a’r modd y cyflenwir gwasanaethau cyhoeddus gan ystod o sefydliadau.
Rydym, eisoes, wedi dechrau ail ganolbwyntio’n gweithgareddau tuag at weithio ag eraill mewn rôl sy’n fwy galluogol ac sy’n sicrhau cymaint â phosibl o werth i’r cyhoedd. Bydd y gwaith a gyflenwir gennym yn 2012/13 yn adlewyrchu’r newid hwn o ran ffocws.
Mae’r Comisiwn, fel sefydliadau sector cyhoeddus eraill, yn wynebu’r her o weithredu â chyllideb sydd wedi’i chwtogi’n fawr. O ganlyniad, bydd y cynllun eleni yn canolbwyntio ar lai o weithgareddau ond ar y rhai, serch hynny, a fydd yn creu’r effeithiau mwyaf.
Mae ein rhaglen gwaith a luniwyd ar gyfer 2012-13 yn gymorth i ni gyflawni ein cynllun strategol o ran y meysydd a ganlyn:
Rydym yn falch i ddatgan inni gyhoeddi ein Cynllun Busnes ar gyfer 2011/12. Mae’r cynllun eleni yn canolbwyntio ar lai o weithgareddau ond y rhai a fydd â’r effaith fwyaf i wneud y defnydd gorau o’n hadnoddau sy wedi lleihau. Mae wedi’i fwydo gan amcanion a oedd o fewn cynllun strategol 2009/12, tystiolaeth o’r adolygiad teirblwydd, gofynion deddfwriaethol a’n hymrwymiadau presennol megis materion yn canlyn cyn-ymchwiliadau ac asesiadau.
Rydym eisoes wedi dechrau llunio ein cynllun strategol newydd ar gyfer 2012/15 a diwygio ein hunain i fod yn sefydliad sylweddol teneuach a mwy effeithiol. Ystyriwyd hyn wrth lunio’r Cynllun Gwaith. Darllenwch gyflwyniad i’r cynllun gan ein Prif Weithredwr dros dro.
Mae ein rhaglen waith ar gyfer 2011/12 yn canolbwyntio ar y meysydd a ganlyn:
Os ydych angen ein cynllun busnes mewn fformat amgenach, wnewch chi gysylltu â’n llinell gymorth.
Os hoffech wybodaeth bellach am ein cynllun busnes, neu roi sylw arno, anfonwch e-bost i businessplanning@equalityhumanrights.com neu ysgrifennu at:
Business Planning Team
Equality and Human Rights Commission
2nd Floor Arndale House
Arndale Centre
Manchester
M4 3AQ
Neu allwch ffonio’n llinell gymorth.