Blaenoriaethau strategol 2012-2015

Blaenoriaeth strategol 1

I hybu tegwch a chyfle cyfartal yn economi Prydain yn y dyfodol

  • Mynd i’r afael ag achosion strwythurol y bwlch cyflog a sicrhau, o leiaf, nad oes atgwymp
  • Asesu effaith yr economi ar wahanol grwpiau wrth iddo newid a sicrhau, o leiaf, na fydd unrhyw lithro’n ôl o ran bylchau cyflogaeth
  • Sicrhau bod y llywodraeth yn gwneud penderfyniadau teg yn nyddiau  llymder.

Blaenoriaeth strategol 2

I hybu mynediad teg at wasanaethau cyhoeddus, ac annibyniaeth ac urddas mewn cyflawniad gwasanaeth

  • Sicrhau bod dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn esgor ar ganlyniadau gwell yng Nghymru, Lloegr a’r Alban
  • Hybu urddas ac annibyniaeth wrth i wasanaethau gofal cymdeithasol  gael ei gyflenwi gan ystod o ddarparwyr yn Lloegr
  • Annog, monitro ac adrodd ar gydymffurfiaeth a chynnydd Prydain wrth y Senedd a’r Cenhedloedd Unedig
  • Datblygu gallu’r sector gwirfoddol i wella perfformiad cydraddoldeb a hawliau dynol ar draws ei holl swyddogaethau.

Blaenoriaeth strategol 3

I hybu urddas a pharch, ac amddiffyn diogelwch pobl

  • Lleihau helyntion bwlio ar sail hunaniaeth yn yr ysgol ac yn y gweithle
  • Lleihau helyntion troseddu ar sail casineb
  • Cynyddu tryloywder materion cydraddoldeb a hawliau dynol mewn sefyllfaoedd cyfiawnder troseddol a mewnfudo
  • Mynd i’r afael â masnachu mewn pobl yn yr Alban a gwella triniaeth dioddefwyr.

 

back to top