Y Comisiwn yn lansio 'Beyond Tolerance: Making Sexual Orientation a Public Matter'

Y Comisiwn yn lansio adroddiad ar wahaniaethu yn erbyn pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol

12 October 2009

Heddiw, mae’r Comisiwn yn lansio cyfres o adroddiadau ar brofiadau pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) ym Mhrydain.
Mae 'Beyond Tolerance: Making Sexual Orientation a Public Matter'  yn dathlu’r cynnydd sylweddol a wnaed wrth fynd i’r afael â homoffobia dros y 40 mlynedd diwethaf, ac yn amlinellu’r mesurau y gallai sefydliadau eu rhoi ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaethu sy’n parhau.

Mae rhywfaint o’r cynnydd sylweddol a wnaed hyd yn hyn yn cynnwys diogelu pobl rhag cael eu diswyddo o’u gwaith ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol, herio bwlio homoffobig, partneriaethau sifil a mabwysiadu gan gyplau o’r un rhyw.

Er gwaethaf y cynnydd cyfreithiol ym Mhrydain, mae pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn dal i brofi gwahaniaethu ac anfantais sydd wedi hen sefydlu.  Ymhlith yr enghreifftiau a godai amlaf roedd bwlio ac aflonyddu mewn ysgolion a phrifysgolion, ofn byw mewn rhai ardaloedd, a cham-drin homoffobaidd geiriol a chorfforol agored.

Canfu ymchwil newydd* ar gyfer yr adroddiad fod rhai pobl LHD yn dal i deimlo na allant fod yn agored ynglŷn â’u cyfeiriadedd rhywiol heb ofni rhagfarn neu wahaniaethu mewn gwasanaethau a sectorau allweddol, yn cynnwys y gweithle a phractisau iechyd lleol neu ysbytai, ac yn arbennig mewn ysgolion, prifysgolion, colegau a gorsafoedd heddlu.  Gan nad yw, ac na fyddai rhai pobl LHD yn ystyried swyddi yn yr heddlu, ym myd addysg, y lluoedd arfog nac fel gweithwyr llaw, mae hyn yn awgrymu fod tipyn o ffordd i fynd eto i drechu homoffobia.

Mae’r adroddiad yn awgrymu lle bydd angen i sefydliadau ganolbwyntio’u sylw er mwyn gwneud y newidiadau angenrheidiol, gan edrych yn benodol ar yr enghreifftiau o fyd addysg, cyflogaeth, gofal iechyd a’r system cyfiawnder troseddol.

Un argymhelliad allweddol a wnaeth yr adroddiad oedd bod angen casglu mwy o ddata ar gyfeiriadedd rhywiol.  Nid oes fawr o ddata ar gael ym Mhrydain o gwbl yn y maes hwn, felly mae penderfyniadau polisi cyhoeddus yn cael eu seilio ar ragdybiaethau am faint, lleoliad neu anghenion penodol y boblogaeth LHD yn hytrach nag ar ffeithiau.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r corff cyhoeddus cyntaf ym Mhrydain â mandad i ddiogelu, gorfodi a hyrwyddo cydraddoldeb, lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu a meithrin cysylltiadau da i bobl LHD, fel un o saith grŵp ‘a warchodir’, ynghyd ag oedran, anabledd, rhyw, hil, crefydd a chred, ac ailbennu rhywedd.

Mae’r cynnydd a’r newidiadau sydd eu hangen yn cael eu harchwilio yn yr adroddiad ac mewn areithiau gan Trevor Phillips, Cadeirydd y Comisiwn, a’r Comisiynwyr Ben Summerskill OBE a Kay Carberry CBE yn ystod y lansiad heddiw.

Darllenwch fwy am Beyond Tolerance a lawrlwytho’r adroddiadau.

DIWEDD

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Swyddfa’r Cyfryngau, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar 020 3117 0255 (neu 07767 272 818 y tu allan i oriau gwaith).

Nodiadau i olygyddion

*Mae’r astudiaeth gan Ellison a Gunstone (2009) yn unigryw gan ei bod yn casglu amrywiaeth eang o safbwyntiau dros 5,000 o bobl a ymatebodd i’r arolwg ar lein, yn cynnwys 2,199 sy’n galw eu hunain yn heterorywiol a 2,731 sy’n LHD.  Cafodd ymatebwyr i’r arolwg eu recriwtio o banel ymchwil ar-lein hunanddewisol o tua 235,000 o oedolion yng Nghymru, Lloegr a’r Alban mewn proses ddwy ran.

Mae’r Comisiwn yn gorff statudol a sefydlwyd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006, gan etifeddu cyfrifoldebau’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, y Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal.  Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw hyrwyddwr annibynnol cydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain.  Ei nod yw lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, cryfhau cysylltiadau da rhwng pobl, a hyrwyddo a diogelu hawliau dynol.  Mae’r Comisiwn â hawl i orfodi cydymffurfiaeth â deddfwriaeth gydraddoldeb mewn perthynas ag oedran, anabledd, rhyw, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu statws trawsryweddol, ac yn annog cydymffurfiaeth â’r Ddeddf Hawliau Dynol.  Mae hefyd yn rhoi cyngor a chanllawiau i fusnesau, y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus, ac i unigolion.