Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am waith y Comisiwn i gefnogi deddf gydraddoldeb newydd. Rydym eisiau gweld fframwaith cyfreithlon sengl, modern sy’n darparu cyfraith symlach ac eglurach ac sy’n fwy effeithiol wrth fynd i’r afael ag anfantais a gwahaniaethu.
Ar 26 Mehefin 2008 cyhoeddodd Harriet Harman, Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Fesur Cydraddoldeb Sengl newydd. Ar 27 Ebrill 2009 cyhoeddodd y Llywodraeth y Mesur Cydraddoldeb. Mae’r Mesur gerbron y Senedd ar hyn o bryd, ac yn debygol o ddod i rym yn Hydref 2010.
Mae’r Comisiwn wedi bod yn trafod gyda Swyddfa Cydraddoldeb y Llywodraeth ynglŷn â chynhyrchu canllawiau statudol ac anstatudol, a bydd rhywfaint ohonynt yn cael eu cyhoeddi cyn i’r Ddeddf gael ei gweithredu, i helpu pawb i ddeall y Ddeddf newydd a sut y bydd deddfwriaeth gydraddoldeb yn newid.
Er mwyn sicrhau y bydd y canllawiau mor ddefnyddiol ac addysgiadol a phosibl, rydym eisiau sylwadau ar y fersiynau drafft. Rydym yn ymgynghori ar ganllawiau anstatudol drafft ar gyfer cyflogaeth; gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau; ac addysg. Mae’r ymgynghoriadau hyn ar agor tan 16 Ebrill.
Dolen sydyn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriadau ar-lein ar y canllawiau anstatudol
Rydym hefyd yn ymgynghori ar wahân ar y Codau Ymarfer drafft. Mae’r ymgynghoriad hwn ar agor tan 2 Ebrill.
Cewch fwy o wybodaeth yn: Ymgynghoriadau'r Mesur Cydraddoldeb
Yn y ddogfen Crynodeb ein Hymateb rydym yn amlinellu ymateb y Comisiwn i’r mesur, yn enwedig darpariaethau ar gyfer dyletswydd economaidd-gymdeithasol, gwneud gwahaniaethu ar sail oedran yn anghyfreithlon, cyflwyno dyletswydd sector cyhoeddus sengl, mynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, hyrwyddo cydraddoldeb trwy gaffael, egluro agweddau ar gyfraith gwahaniaethu a gweithredu cadarnhaol.
Rydym wedi cynhyrchu nifer o friffiau hefyd wrth ddilyn y Mesur trwy’r Senedd. Ein briff mwyaf diweddar yw trafodaeth Ionawr ym Mhwyllgor yr Arglwyddi.
Manylion pellach am y Mesur