Yr amserlen ar gyfer gweithredu gwahanol rannau’r Mesur Cydraddoldeb, cyn belled â’i fod yn llwyddo yn ei holl gamau Seneddol cyn yr etholiad cyffredinol, ac ar gyfer cyhoeddi canllawiau ymarferol a chodau ymarfer cyfreithiol, yw:
Cyflogaeth, Cyflog Cyfartal a Gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau
- Dod i rym: Hydref 2010
- Cyhoeddi canllawiau: Gorffennaf 2010
- Cod ymarfer drafft gerbron y Senedd: Mehefin 2010.
Addysg (bellach ac addysg uwch)
- Dod i rym: Hydref 2010
- Cyhoeddi canllawiau: Gorffennaf 2010
- Cod ymarfer drafft gerbron y Senedd: Ionawr 2011.
Addysg (ysgolion)
- Dod i rym: Hydref 2010
- Cyhoeddi canllawiau: Gorffennaf 2010
- Cod ymarfer drafft gerbron y Senedd : Mai 2011.
Dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus
- Dod i rym: Ebrill 2011
- Cyhoeddi canllawiau: Rhagfyr 2010
- Cod ymarfer drafft gerbron y Senedd: Ionawr 2011.
Amddiffyn oedran y tu allan i’r gweithle
- Dod i rym: disgwyliedig Ebrill 2012
- Cyhoeddi canllawiau: Rhagfyr 2011
- Cod ymarfer drafft gerbron y Senedd: Ionawr 2012.
Nodwch: mae’r dyddiadau hyn (yn enwedig cod ymarfer ysgolion a chod ymarfer dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus) yn debygol o newid lle mae rheoliadau manwl yn ddisgwyliedig. Ble ceir gwahaniaethau awdurdodaethol rhwng Cymru, Lloegr a’r Alban a ble bydd rheoliadau ar wahân yn bodoli (fel, er enghraifft, ar ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus) yna gall y codau gael eu cyhoeddi yn ôl amserlen wahanol ym mhob awdurdodaeth.