Mae gan y Comisiwn set unigryw o bwerau cyfreithiol. Mae'r strategaeth gwaith achos ac ymgyfreitha'n nodi sut y byddwn yn defnyddio ein gwaith achos, ymgyfreitha a phwerau ymyrryd i atgyfnerthu ac ymestyn cyrhaeddiad deddfwriaeth a gwarchodaeth cydraddoldeb a hawliau dynol. Rhwng 2009 a 2012, ein nod fydd ymgymryd ag o leiaf 100 o achosion cyfreithiol y flwyddyn. Bydd pob un o'r achosion hyn yn ein cynorthwyo i gwrdd â'n hamcanion, gan sicrhau'r newid cadarnhaol mwyaf effeithiol a pharhaol.
Rydym wedi clustnodi nifer o feysydd fydd yn flaenoriaeth gogyfer â'n gwaith cyfreithiol yn ystod y cyfnod hwn:
Bydd yr achosion y dewiswn eu cefnogi yn y blynyddoedd nesaf yn adlewyrchu'r blaenoriaethau hyn.
Mae ein Cynllun Strategol 2009 -2012 a’n Strategaeth Hawliau Dynol yn nodi ein blaenoriaethau strategol ar gyfer 2009 - 2012. Byddwn yn defnyddio ystod lawn ein pwerau a'n hadnoddau cyfreithiol i'n helpu i gyflawni'r blaenoriaethau hyn. Bydd y strategaeth gwaith achos ac ymgyfreitha'n ategu’r amcanion strategol hyn a dylid eu darllen ar y cyd â'r strategaethau.
Carem glywed barn rhanddeiliaid ar y prif flaenoriaethau cyfreithiol arfaethedig sy'n pennu swyddogaethau gwaith achos, ymgyfreitha ac ymyrryd y gyfarwyddiaeth Gyfreithiol.
Sut i ymateb
Darllenwch a lawrlwythwch y ddogfen ymgynghori (fformat Word)
Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad mewn nifer o ffyrdd
Yn ystod y cyfnod ymgynghori, byddwn yn cynnal sesiynau galw heibio yn Llundain a Manceinion ar yr amserau canlynol:
E-bostiwch LegalStrategy@equalityhumanrights.com os hoffech gyfarfod yn ystod unrhyw un o'r sesiynau uchod.
Daw'r ymgynghoriad i ben ar ddydd Llun, 17 Mai 2010.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau croeso i chi e-bostio LegalStrategy@equalityhumanrights.com