Mae’r gyfres nesaf o ddigwyddiadau Rhanbarthol y Gyfnewidfa Cydraddoldeb yn adeiladu ar y gweithdai dyletswyddau penodol a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr. Gobeithio, o ganlyniad i’r diwrnod, y bydd aelodau’n teimlo’n hyderus wrth gyflawni’r dyletswyddau penodol a’u defnyddio i gael canlyniadau positif.
Byddwn yn edrych ar Asesu Effaith Cydraddoldeb ac yn rhannu tipyn o’r hyn a ddysgom yn y digwyddiadau a chynhaliom gyda chyfarwyddwyr cyllid ar asesu effaith cyllidebau ar gydraddoldeb. Gan mai’r rhain fydd y gyfres olaf o ddigwyddiadau cyn mis Ebrill, fe fydd cyfle i archwilio unrhyw heriau a chyfleoedd sydd ar y gweill, rhannu nodau cydraddoldeb ag aelod- sefydliadau eraill. Hefyd, holi staff y Comisiwn ynglŷn ag unrhyw ymholiadau, efallai, y bydd gennych.
Fel arfer, bydd y diwrnod yn gymysgfa o ganllawiau, cyngor ac aelodau’n rhannu gwybodaeth a phrofiad ynglŷn â’u cynnydd o ran y dyletswyddau.
Byddwn yn sicrhau y rhennir themâu ac adborth allweddol â’r rhwydwaith ehangach fel bo pawb yn elwa.
Bydd y digwyddiadau’n digwydd ar y dyddiadau a’r lleoliadau ledled Cymru a ganlyn:
Cadarnhewch pa ddigwyddiad yr hoffech ei fynychu, os gwelwch yn dda, drwy anfon e-bost at Mandy.Bain@equalityhumanrights.comgan ychwanegu unrhyw ofynion mynediad neu ddiet y dylem wybod amdanynt a/neu os hoffech gyfathrebu yn Gymraeg.
Y dyddiad cau ar gyfer trefnu cadw lle yw dydd Llun 20 Chwefror 2012 neu cyn hynny os ydym yn llawn! I’n helpu gyda’n cynllunio a chyllidebau, byddem yn gwerthfawrogi’n fawr petaech yn gallu cofrestru cyn gynted â phosibl.