Mae'r Comisiwn yng Nghymru'n amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol i bawb sydd yn byw neu'n gweithio yng Nghymru.

Cynhadledd Flynyddol Rhwydwaith y Gyfnewidfa Gydraddoldeb 2012Agwedd Newydd at Degwch
Caiff Cynhadledd Gyfnewidfa Gydraddoldeb Flynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ei chynnal eleni ar 5 Mehefin yn Llandrindod.

Cyfarwyddyd newydd wedi’i lansio i helpu cyflogwyr i roi cymorth i staff sy’n dioddef cam-drin domestig
10/04/13

Lansir cyfarwyddyd newydd heddiw i helpu cyflogwyr i reoli a roi cymorth i gyflogeion a effeithir gan gam-drin domestig, y bydd un o bob pedair menyw yn dioddef ar ryw adeg yn eu bywyd.

Newyddion a digwyddiadau yng Nghymru

Ymateb i’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru
Mae’r Comisiwn wedi darparu ymateb ffurfiol parthed adolygu pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

31/01/13
Rhwydwaith y Gyfnewidfa Gydraddoldeb - Defnyddio’r cyfrifiad i hybu cydraddoldeb
Cynhelir y rownd nesaf o ddigwyddiadau ym mis Chwefror a Mawrth 2013 a bydd y ffocws ar Gyfrifiad 2011.

15/01/13
Canllaw ar feithrin Cymru decach
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, heddiw, wedi cyhoeddi Canllaw Technegol i gynorthwyo awdurdodau cyhoeddus wrth iddynt ddefnyddio Dyletswydd Gydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i Gymru fel teclyn i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Bydd y canllaw newydd, hefyd, yn cynorthwyo llysoedd barn a thribiwnlysoedd wrth iddynt ddyfarnu ar faterion o gyfraith gydraddoldeb. 

Adnoddau'r Comisiwn

Dolenni defnyddiol a gwybodaeth bwysig o'r Comisiwn

Ein Gwaith

Sirchau agenda gydraddoldeb a hawliau dynol gref

Mae’r cyhoeddiad hwn yn taflu golwg ar waith y Comisiwn yng Nghymru yn ystod 2011/12, ac yn amlinellu’n blaenoriaethau ar gyfer y deuddeg mis nesaf.

Pa mor deg yw Cymru?

Mae'r Adolygiad hwn yn dwyn at ei gilydd, am y tro cyntaf, dystiolaeth i ateb y cwestiwn 'Pa mor deg yw Cymru?'. Mae'n cynnig safbwynt newydd ar rhai anghydraddoldebau parhaus ac mae'n nodi rhai heriau newydd.

Eich Busnes Chi - Polisiau yn y gweithle ar gam-drin domestig ac iechyd meddwl

Canfu ein hymchwil Pwy rydych chi'n ei weld? Byw gyda'n gilydd yng Nghymru bod rhagfarnau'n dyfalbarhau tuag at gam-drin domestig a phobl a chyflyrau iechyd meddwl. Dyma ddau faes y dylai gyflogwyr yng Nghymru ymwneud a hwy er mwyn mynd i'r afael ag absenoldeb salwch, a chadw staff medrus a phrofiadol a sicrhau bod staff yn teimlo'n ddiogel yn y gweithle a bod ganddynt gymorth a chefnogaeth yno.

Ein gwaith arall yng Nghymru