Mae’r prosiect hwn yn archwilio profiadau bywyd Sipsiwn- Teithwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid, pobl trawsryweddol a phobl â chyflwr iechyd meddwl.
Lansiad De Cymru – Tachwedd 2010Derbyniodd y cyfweliadau wyneb i wyneb a’r hanesion digidol am fywyd yng Nghymru adborth cadarnhaol yn dilyn ein lansiad cyntaf yng Nghasnewydd.
Ar gyfer ein hail ddigwyddiad lansio aethom i Wrecsam i drafod effaith rhagfarn a pheth sydd angen ei newid er mwyn i bobl fyw’n hyderus.
Darllenwch ein canfyddiadau ar brofiadau bywyd Sipsiwn-Teithwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid, pobl trawsryweddol a phobl â chyflwr iechyd meddwl.
Mae gennym bedair stori ddigidol i gefnogi lansiad yr ymchwil sy’n adrodd hanesion byw go iawn bobl yng Nghymru. Mae unigolion yn sôn am agweddau eu teuluoedd, ffrindiau a chymunedau lleol atynt yn ogystal â’u profiadau â gwasanaethau cyhoeddus.
Rydym wedi casglu dogfennau unigol atodol ynghyd sy’n rhoi manylion pellach ar yr adborth a’r awgrymiadau a gawsom gan geiswyr lloches a ffoaduriaid, pobl yn byw â chyflyrau iechyd meddwl, pobl trawsryweddol a grwpiau Sipsiwn-Teithwyr.
Yn 2008 cyhoeddodd y Comisiwn yng Nghymru'r ymchwil agweddol cyntaf i brofiadau bywyd pobl yng Nghymru. Adeiladodd Pwy rydych chi’n ei weld? ddarlun o gymdeithas oddefgar yn gyffredinol ond dangosodd y bod rhai grwpiau yn ein cymdeithas o hyd yn dioddef rhagfarn, agweddau negyddol ac arwahanrwydd.
Hefyd mae gan adran Pwy rydych chi’n ei weld? nifer o ddogfennau atodol sy’n rhoi manylion profiadau pobl mewn gwahanol feysydd o’u bywydau. Hefyd mae delweddau sy’n herio ein rhagdybiaethau o unigolion.