Dogfennau ategol
Darllenwch y pedwar adroddiad unigol a amlygwyd yn yr adroddiad.
Hanesion digidol
Gwyliwch profiadau bywyd go iawn aelodau o bob grwp a amlygwyd .
Mae adroddiad Mwy nag ystadegyn yn bwrw golwg ar brofiadau Sipsiwn-Teithwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid, pobl drawsryweddol a phobl a chyflwr iechyd meddwl. Fe benderfynon ni ddysgu mwy am y grwpiau hyn gan fod ein gwaith ymchwil blaenorol yn dangos eu bod yn fwy tebygol o ddioddef agweddau negyddol, rhagfarn ac arwahanrwydd nag unrhyw grwp arall yng Nghymru.
Mae ein hadroddiad yn cynnig cipolwg ar fywyd trwy eu llygaid nhw, a'u profiadau poenus a chaled o fywyd bob dydd boed yn yr ysgol, wrth siopa, yn y feddygfa, neu wrth wylio'r teledu adref gyda'r teulu.
Lawr lwytho'r adroddiadCyhoeddwyd: Tachwedd 2010
Darllenwch y pedwar adroddiad unigol a amlygwyd yn yr adroddiad.
Gwyliwch profiadau bywyd go iawn aelodau o bob grwp a amlygwyd .