Dadansoddiad o anghydraddoldeb economaidd yng Nghymru
Mai 2011
Mae’r adroddiad hwn yn ceisio adeiladu ar waith y Panel Cydraddoldeb Cenedlaethol (NEP) a’i adroddiad ‘An Anatomy of Economic Inequality in the UK (2010)’. Mae’r canfyddiadau’n darparu sylfaen tystiolaeth neu ddadansoddiad sy’n benodol i Gymru.
Pa mor deg yw Cymru?
Mawrth 2011
Mae'r Adolygiad hwn yn dwyn ynghyd, am y tro cyntaf, dystiolaeth i ateb y cwestiwn Pa mor deg yw Cymru? Mae'n cynnig safbwynt newydd ar rai anghydraddoldebau rheolaidd ac yn nodi rhai heriau newydd. Ym mis Hydref 2010 cyhoeddodd y Comisiwn ei Adolygiad Teirblwydd cyntaf, How fair is Britain?. Mae Pa mor deg yw Cymru? yn gosod yr Adolygiad Teirblwydd mewn cyd -destun Cymreig.
Pwy sy'n rhedeg Cymru? 2011
Mawrth 2011
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi ciplun o'r rhai sy'n eistedd mewn safleoedd grymus a dylanwadol ym mywyd Cymru. Mae'n bwrw golwg ar ein gwleidyddion, prif weithredwyr ac arweinyddion busnes i weld a ydynt yn adlewyrchu'r bobl y maent yn gwasanaethu. Gwleidyddiaeth a'r sector preifat yw'r ddau faes mwyaf dybryd o bryder. Mae'r argraffiad hwn o Bwy sy'n rhedeg Cymru? yn canolbwyntio ar y meysydd hyn.
Mae'r ymchwil hwn yn cynnig cipolwg am y tro cyntaf o'r math o fywyd sydd gan bobl yng Nghymru sydd a chyflwr iechyd meddwl, neu sy'n Sipsiwn-Teithwyr, neu'n bobl trawsryweddol, yn geiswyr lloches neu ffoaduriaid.
Cyfle Cyfartal a Hawliau Dynol:Degawd Cyntaf Datganoli yng Nghymru
Wedi'i ysgrifennu ar ben-blwydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ddeng mlwydd oed, mae'r ymchwil hwn yn cloriannu'n feirniadol y cynnydd ym maes cydraddoldeb a hawliau dynol ers datganoli.
Fframwaith Mesur Cydraddoldeb
Mae'r Comisiwn wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfa Cydraddoldeb y Llywodraeth (GEO), Llywodraeth yr Alban, Swyddfar Ystadegau Gwladol (ONS) ac amrywiaeth o randdeiliaid arall ac arbenigwyr pwnc i ddatblygu fframwaith mesur y gellir ei ddefnyddio i gael mynediad at gydraddoldeb a hawliau dynol ar draws amrywiaeth o barthau'n berthnasol i fywyd yr unfed ganrif ar hugain.
Materion Cydraddoldeb yng Nghymru: adolygiad ymchwil
Mae hwn yn darparu'r adolygiad cynhwysfawr cyntaf o ymchwil ac ystadegau sy'n perthyn yn benodol i Gymru drwy hil, rhyw, anabledd, oed, cyfeiriadedd rhywiol a chrefydd.
Pwy Syn Rhedeg Cymru? 2009
Mae adroddiad Pwy Sy'n Rhedeg Cymru? 2009 y Comisiwn yn edrych ar ddeg o feysydd ar fywyd Cymru, gan gynnwys gwleidyddiaeth, iechyd, a'r sector preifat er mwyn asesu'r cydbwysedd ar sail rhyw sydd yn y swyddi uwch yng Nghymru. Ar y cyfan, nid oes braidd unrhyw gynnydd wedi'i wneud i gyflawni cydbwysedd ar sail rhyw yn y swyddi uwch yng Nghymru ers adroddiad 2004.
Pwy Ydych Chin ei Weld? Cyd- fyw yng Nghymru
Sut i fyw gyda'n gilydd a sut i fyw gyda'r blaned yw cwestiynau mwyaf yr unfed ganrif ar hugain. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi darlun i ni o sut rydym yn cyd-fyw yng Nghymru yn 2008.