O dan y ddyletswydd cydraddoldeb hiliol, mae gan lywodraeth leol ac awdurdodau cyhoeddus eraill ddyletswydd benodol i sicrhau bod pobl yn gallu manteisio ar y wybodaeth a’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt. Mae mynediad i’r cyhoedd yn golygu mwy na sicrhau bod gwybodaeth neu wasanaethau ar gael. Yn ymarferol, mae’n golygu y gall aelodau’r cyhoedd gael mynediad cyfartal a gwirioneddol i wybodaeth a gwasanaethau. Felly, mae gan awdurdodau cyhoeddus ddyletswydd i sicrhau bod y wybodaeth yn cyrraedd pobl o wahanol grwpiau hiliol.
Mae angen i gynghorau wybod pa bobl sydd yn eu cymuned ac a oes angen cyfieithu i ieithoedd eraill. Hwyrach y bydd mwy o alw am gyfieithu gwybodaeth mewn rhai cymunedau, tra na fydd angen y wybodaeth hon ar gymunedau eraill neu efallai y bydd angen cyfieithu gwybodaeth am wasanaeth neu faes pryder penodol. Hefyd, hwyrach y bydd cynghorau am dargedu cymuned benodol. Dylent ddewis defnyddio’r ieithoedd y mae cymunedau’n teimlo’n hyderus i’w defnyddio.
Monitro ethnig yw’r broses a ddefnyddir i gasglu, cadw a dadansoddi data am gefndiroedd ethnig pobl. Gallwch ddefnyddio monitro ethnig i:
Wrth ddarparu gwasanaethau, gall gwaith monitro ddweud wrthych chi pa grwpiau sy’n defnyddio’ch gwasanaethau, a pha mor fodlon yw’r grwpiau hynny gyda’ch gwasanaethau. Yna, gallwch ystyried ffyrdd o gyrraedd grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a sicrhau bod eich gwasanaethau’n berthnasol i’w hanghenion ac yn cael eu darparu’n deg.
O ystyried yr uchod, byddem yn disgwyl i sefydliadau fonitro’r holl bobl sy’n defnyddio’u gwasanaethau, gan gynnwys nifer y bobl wyn sy’n eu defnyddio. Yn ddelfrydol, dylent hefyd ddefnyddio categorïau monitro ethnig sydd yr un fath neu’n debyg i gategorïau’r Cyfrifiad. Gweler ein canllawiau ar fonitro ethnig:
Ethnic monitoring in England and Wales (PDF)
Ethnic monitoring in Scotland (PDF)