Mae gwrthod mynediad i gwsmeriaid oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol yn anghyfreithiol. Hefyd, mae’n anghyfreithiol i hysbysebu yn y fath fodd sy’n awgrymu na fyddai croeso i gwsmeriaid o gyfeiriadedd arbennig.
Fodd bynnag, nid yw’n anghyfreithlon i ddarparu gwasanaethau a nwyddau masnachol sy’n debygol o fod yn fwy o ddiddordeb i bobl o gyfeiriadedd rhywiol arbennig nag i eraill o gyfeiriadedd rhywiol gwahanol.
Gall gwmni teithio sy’n trefnu gwyliau dargedu ei wasanaethau at lesbiaid, dynion hoyw a phobl deurywiol. Gwahaniaethu cyfreithlon yw hyn.