Cwestiynau Cyffredin

Isod ceir atebion i rai cwestiynau cyffredin.  Os na welwch chi ateb i’ch cwestiwn yma, ewch i’r canllaw syml i'ch hawliau hedfan, ein hastudiaethau achos neu cysylltwch â’n llinell gymorth am gyngor.

Beth yw fy hawliau fel unigolyn anabl o ran teithio ar awyren?

O dan y rheoliad newydd, mae gennych chi’r hawl i gael cymorth sy’n briodol i’ch anghenion trwy gydol eich taith.  O dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, mae gennych chi hawliau eraill sy’n atal gwahaniaethu yn y modd y caiff gwasanaethau eu darparu.

I gael mwy o wybodaeth ewch i’r canllaw syml i’ch hawliau hedfan.


A yw’n gyfreithlon i gwmnïau awyrennau godi tâl i fynd ag ocsigen ar awyren?

Ar hyn o bryd, mae cwmnïau hedfan yn gosod polisïau eu hunain ar ocsigen.  Mae rhai’n gadael i deithwyr ddod ag ocsigen eu hunain, tra bod eraill dim ond yn fodlon cario’r ocsigen y maen nhw wedi’i ddarparu.  Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau hedfan yn codi tâl am y ddau opsiwn hyn. Nid yw’n glir a yw’r tâl hwn yn erbyn y gyfraith neu beidio.  Bydd y Comisiwn yn ceisio cael dehongliad o’r gyfraith fel na all cwmnïau hedfan godi tâl.


A yw cwmni hedfan yn gallu gwrthod cario fy nghadair olwyn?

Rhaid i gwmnïau hedfan gario cadeiriau olwyn ar yr amodau canlynol:

  • rhybudd o 48 awr ymlaen llaw
  • cyfyngiadau posibl o ran faint o le sydd ar yr awyren
  • deddfwriaeth berthnasol sy’n ymwneud â nwyddau peryglus.


A yw cwmni hedfan yn gallu gwrthod caniatáu fy nghi tywys ar yr awyren?

Rhaid dilyn rheoliadau cenedlaethol wrth gario cŵn tywys cydnabyddedig yng nghaban yr awyren. Gellir cael mwy o wybodaeth am y rheolau hyn yn: http://www.defra.gov.uk/animalh/quarantine/pets/procedures/support-info/routes.htm

Mae yna ychydig o lwybrau sydd wedi’u cymeradwyo i gario cŵn tywys ac mae mwy yn cael eu hychwanegu pob dydd.


A fydd angen pasbort ar fy nghi tywys?

Bydd.  Gellir cael mwy o wybodaeth am basbortau anifeiliaid anwes y cynllun PETS yn: http://www.defra.gov.uk/animalh/quarantine/pets/index.htm


Beth yw’r drefn gwyno?

Gallwn ni roi cyngor ar sut i wneud cwyn a darparu templedi ar gyfer llythyrau i’w hanfon at gwmnïau hedfan, meysydd awyr a threfnwyr teithiau. Os nad ydych yn cael ateb boddhaol, fe allem ni gynnig gwasanaeth cymodi.  Gallwn ni ddelio’n uniongyrchol â darparwyr gwasanaeth sy’n torri’r gyfraith hefyd a chynorthwyo unigolion mewn achosion llys.


Pa gymorth allaf i ei gael yn y maes awyr?

Mae gennych chi’r hawl i gael cymorth o’r funud y byddwch chi’n cyrraedd y maes awyr, trwy’r ddesg gofrestru, y trefniadau mewnfudo, tollau a diogelwch, ac wrth fynd ar yr awyren a chyrraedd eich sedd. Bydd y cymorth hwn ar gael i chi pan fyddwch chi’n glanio hefyd, o’r eiliad y byddwch chi’n gadael sedd yr awyren nes i chi adael y maes awyr.

 

A oes angen i mi ddweud wrth y maes awyr ymlaen llaw fy mod angen cymorth?

Dylech chi hysbysu’r cwmni hedfan cyn gynted ag y byddwch chi’n gwybod y bydd angen cymorth arnoch.  Byddan nhw’n trosglwyddo’r wybodaeth i’r ddau faes awyr perthnasol. Dylech roi gwybod iddynt o leiaf 48 awr ymlaen llaw.

Os na fyddwch chi’n rhoi gwybod, rhaid iddynt barhau i wneud pob ymdrech rhesymol i ddarparu cymorth, ond efallai y bydd hi’n anoddach iddynt wneud hynny.

 

Beth yw fy hawliau os bydd fy nhaith yn cael ei gohirio neu ei chanslo?

Os bydd eich taith yn cael ei chanslo, mae gennych chi’r hawl i gael ad-daliad neu i gael eich ailgyfeirio. Yn dibynnu ar hyd yr oedi, gallai’r maes awyr gynnig dau alwad ffôn, prydau bwyd a lluniaeth, llety mewn gwesty a chludiant rhwng y maes awyr a’r llety. Wrth ddarparu’r cymorth hwn, rhaid rhoi sylw arbennig i anghenion teithwyr anabl a theithwyr sydd â phroblemau symud.


Cefais wybod mai fy nghyfrifoldeb i yw cyrraedd y derfynfa. A yw hyn yn wir?

Cwestiwn llawn: Cyrhaeddais y maes awyr yr wythnos diwethaf a ffonio am gymorth arbennig o fan cymorth mewn maes parcio i ffwrdd o’r safle.  Cefais wybod mai fy nghyfrifoldeb i yw cyrraedd y derfynfa. A yw hyn yn wir?

Na.  Rhaid i feysydd awyr gael mannau cyrraedd a gadael penodol o fewn ffiniau’r maes awyr neu mewn man sydd dan reolaeth uniongyrchol y corff rheoli, y tu mewn a thu allan i adeiladau’r derfynfa, lle gall pobl anabl neu bobl â phroblemau symud gyhoeddi, yn hawdd, eu bod wedi cyrraedd y maes awyr ac angen cymorth. Dylech chi fod yn gallu dweud eich bod wedi cyrraedd a gofyn am gymorth yn y mannau penodol hyn.  Mae’r ffaith fod yna fan cymorth yn y maes parcio’n awgrymu’n gryf y dylai teithwyr allu ei ddefnyddio i ofyn am gymorth.  Dylai fod yna gymorth ar gael i’ch helpu i symud o’r man penodol a ddynodwyd i’r ddesg gofrestru.


A ydw i’n gallu cwyno os mai dim ond cadeiriau olwyn arferol sydd ar gael?

Cwestiwn llawn: Pan archebais fy ngwyliau, esboniais i’r trefnwr teithiau y byddai angen cadair olwyn fwy nag arfer gyda chefn uchel arnaf yn y maes awyr lle byddwn i’n gadael ac yn cyrraedd. Roedd y ddau faes awyr yn Ewrop. Pan gyrhaeddais y maes awyr, dim ond cadair olwyn arferol oedd ar gael ac nid oedd yr un ar gael yn fy nghyrchfan.  Siaradais â’r asiant yn y maes awyr lle’r oeddwn i’n gadael, a dywedodd mai dim ond cadeiriau olwyn arferol oedd ar gael.  Gwadodd y maes awyr y cyrhaeddais ynddo eu bod yn gwybod unrhyw beth am y rheoliad. A alla i gwyno?

Gallwch.  Rhaid i’r cymorth a roddir, cyn belled ag y bo modd, fod yn briodol i anghenion arbennig y teithiwr unigol. Mae’r gyfraith newydd yn nodi y dylid darparu cymorth i bobl anabl a phobl â phroblemau symud i ddiwallu eu hanghenion penodol, yn y maes awyr yn ogystal ag ar yr awyren ei hun, trwy ddefnyddio’r staff a’r offer angenrheidiol, er mwyn rhoi’r un cyfleoedd iddynt deithio ar awyrennau ag sydd gan ddinasyddion eraill. Mae’r Comisiwn yn credu ei bod yn rhesymol i ddisgwyl i feysydd awyr sy’n darparu cymorth i filoedd o deithwyr â phroblemau symud bob blwyddyn, gyda’r amrywiaeth o anghenion y mae hynny’n ei gynnwys, gael cymysgedd o gadeiriau olwyn: rhai arferol, rhai i’w gwthio gan weithiwr, rhai â chefnau uchel, gyda breichiau y gellir eu tynnu i ffwrdd, gyda silffoedd i’r traed y gellir eu haddasu a seddau o wahanol led.


Allwn i ddim mynd ar yr awyren. Allwch chi roi cyngor i mi?

Cwestiwn llawn: Archebodd fy ngŵr a minnau wyliau byr yn ddiweddar a’r bwriad oedd hedfan i Baris ar awyren breifat. Cyrhaeddon ni ar amser a gofalu bod gyda ni’r dogfennau cywir i hedfan ar awyren fach.  Dywedon ni wrth y trefnwr teithiau mod i angen cymorth, ond honnodd y cwmni hedfan nad oedd y wybodaeth wedi cael ei throsglwyddo’n iawn ac y bydden nhw wedi dweud wrthym, pe bydden nhw wedi cael gwybod yn gynt, nad oedd drws yr awyren yn addas i ambiwlifft ac felly na fyddwn i’n gallu mynd ar yr awyren.  Rwy’n grac ofnadwy gan fod ein gwyliau wedi cael ei ddifetha.  Allwch chi roi cyngor i mi?

Yn ddelfrydol, dylech wneud ceisiadau am gymorth o leiaf 48 awr cyn i’r awyren adael.  Os gwnaed hyn, mae’n ymddangos fod problem wedi i’r trefnwr teithiau basio’r wybodaeth i’r cwmni hedfan.  Dylai’r ddau sefydliad gymryd yr holl gamau angenrheidiol i dderbyn ceisiadau am gymorth.  Mae’n wir y gall cwmnïau hedfan wrthod gadael i bobl neu nwyddau fynd ar awyren os yw maint yr awyren neu ei drysau’n gwneud hynny’n amhosibl. Yn yr achos hwn, dylai’r cwmni awyrennau, yr asiant neu’r trefnwr fod wedi gwneud pob ymdrech rhesymol i gynnig dewis arall derbyniol i chi.


Fi yw gofalwr fy mab a bu raid imi dalu i uwchraddio’r sedd. Allwch chi roi cyngor i mi?

Cwestiwn llawn: Mae fy mab yn fyddar, yn ddall ac yn anabl ac felly rhaid iddo gael ei hebrwng gan ofalwr pan fyddwn ni’n teithio.  Pan aethom ni ar wyliau’n ddiweddar, fe uwchraddiodd y cwmni hedfan fy mab am ddim i sedd ar y llawr uchaf.  Esboniodd fod angen iddo gael ei hebrwng gan ofalwr, (fi, yn yr achos hwn), i’w helpu i fynd i’r toiled, i esbonio’r rheolau diogelwch ac i roi unrhyw wybodaeth arall iddo cyn ac yn ystod y daith.  Cynigodd y cwmni hedfan sedd i mi ar y llawr uchaf, ond am bris arferol y sedd honno.  Am nad oeddwn am achosi unrhyw drafferth, cytunais i dalu am y sedd well.  Nawr, rwyf eisiau cwyno.  Allwch chi roi cyngor i mi?

Rydych chi’n iawn i ddweud y byddai angen gofalwr i hedfan gyda’ch mab er mwyn rhoi’r cymorth a ddisgrifiwyd gennych. Rhaid i staff cwmnïau hedfan gynorthwyo teithwyr i symud i’r toiledau, ond nid oes rhaid iddynt godi’r teithwyr na’u helpu i ddefnyddio cyfleusterau’r toiledau. Dylent hefyd gyfathrebu gwybodaeth hanfodol sy’n ymwneud â’r daith mewn ffordd hygyrch.  Gan dybio bod sedd eich mab wedi cael ei huwchraddio am resymau a oedd yn ymwneud â’i angen i gael sedd briodol, roedden nhw’n iawn i ddarparu hyn iddo.  Rhaid i gwmni hedfan wneud pob ymdrech rhesymol i roi sedd i ofalwyr ar bwys yr unigolyn y maent yn gofalu amdano, a rhaid i unrhyw gymorth cael ei ddarparu’n ddi-dâl.

 

back to top