Beth yw gwahaniaethu ar sail oedran?

Dyma enghreifftiau o wahaniaethu ar sail oedran:

  • Mae cyflogwr yn gwrthod cynnig swydd i ymgeisydd ifanc, er bod gan yr ymgeisydd y sgiliau a’r galluoedd sydd eu hangen ar gyfer y swydd.  Mae’r swydd yn un mewn awdurdod, ac nid yw’r cyflogwr yn meddwl y bydd yr ymgeisydd ifanc yn cael ei barchu na’i gymryd o ddifrif oherwydd ei oedran.  Dyma enghraifft o wahaniaethu uniongyrchol.
  • Mae cyflogwr yn mynnu bod rhaid i bob ymgeisydd sy’n ymgeisio am swydd gael prawf ffitrwydd corfforol (a fydd yn rhwyddach i ymgeiswyr ifanc ei gyflawni) er nad oes angen y safon o ffitrwydd ar gyfer y swydd dan sylw.  Dyma enghraifft o wahaniaethu anuniongyrchol.
  • Mae gweithiwr wedi cael ei hanwybyddu ar gyfer dyrchafiad dro ar ôl tro, ac nid yw’n cael mynychu cyfarfodydd ar ei phen ei hunan am ei bod yn edrych yn ifanc am ei hoedran.  Mae ei rheolwr, sydd 10 mlynedd yn hŷn na hi, yn teimlo ei bod hi’n rhy ifanc i gael mwy o gyfrifoldeb, er bod ganddi’r cymwysterau cywir a phum mlynedd o brofiad yn ei swydd.  Dyma enghraifft o wahaniaethu uniongyrchol.
  • Mae diwylliant cyffredinol mewn gweithle yn ystyried bod jôcs sy’n gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn, bwlio a galw enwau’n dderbyniol.  Gallai hyn fod yn aflonyddu ar sail oedran.  Mae aflonyddu yn wahaniaethu uniongyrchol.
  • Un o ofynion hysbyseb swydd yw bod angen 10 mlynedd o brofiad mewn maes perthnasol, pan fyddai dwy neu dair blynedd o brofiad yn ddigonol ar gyfer y swydd.  Gellid ystyried hyn yn wahaniaethu anuniongyrchol.

back to top