Penderfyniadau achosion trawsryweddol

Yma, ceir crynodeb o achosion sy’n effeithio ar hawliau pobl drawsrywiol neu drawsryweddol.  Cyflwynwyd y mwyafrif o’r achosion hyn o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw mewn cysylltiad â Rheoliadau Ailbennu Rhywedd 1999 a thriniaeth bobl drawsrywiol ym maes Cyflogaeth ac Addysg Alwedigaethol.  Nid oes cyfraith achos eto yn ymwneud â darparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau.  Mae rhai achosion hefyd wedi defnyddio dadleuon Hawliau Dynol neu wedi profi rhesymoledd llunio polisi cyhoeddus mewn meysydd fel triniaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Penderfyniad Tribiwnlys Cyflogaeth: X v Brighton and Hove City Council[2006/7]

Roedd y penderfyniad achos hwn gan y tribiwnlys cyflogaeth o 2006/07 yn ymwneud â gwahaniaethu ac erlid cyn-weithiwr cyflogedig trawsryweddol. Gorchmynnwyd i’r Cyngor dalu £34,765.18 am erlid a gwahaniaethu ddwywaith yn erbyn cyn-weithiwr cyflogedig trawsrywiol

Ym mis Mehefin 2007 gorchmynnodd Tribiwnlys Cyflogaeth Brighton y dylai Cyngor Dinas Brighton a Hove dalu iawndal o £34,765.18 i gyn-weithiwr cyflogedig, mewn achos a gefnogwyd gan y Comisiwn Cyfle Cyfartal. Ni ellir enwi’r athrawes oherwydd gorchymyn cyfyngu gan y Tribiwnlys.

Roedd y gorchymyn iawndal yn dilyn penderfyniad y Tribiwnlys ym mis Tachwedd 2006 bod Cyngor Dinas Brighton a Hove, ac un o’i uwch reolwyr, wedi erlid a gwahaniaethu yn erbyn cyn-athrawes ar y sail ei bod wedi newid rhyw.

Yn 2003 cofrestrodd yr athrawes gydag asiantaeth recriwtio athrawon er mwyn chwilio am waith gan ofyn am eirda gan ei chyn-reolwr yn y Cyngor. Collodd y cyfle i gael gwaith am fod ei chyn-reolwr wedi datgelu wrth yr asiantaeth recriwtio ei bod wedi newid rhyw, er gwaethaf cais iddo beidio â datgelu hyn.

Yn wreiddiol, roedd ei chyn-reolwr wedi oedi cyn ymateb i’r cais am eirda. Pan wnaeth ymateb, anfonodd femo cyfrinachol dros y ffacs yn datgelu ei chyn-enw a’i chyn-ryw, a chyfeirio ati fel  "ef neu hi ", "ef" a "hi". Roedd y memo hefyd yn datgelu i’r asiantaeth ei bod wedi cychwyn achos yn honni iddi ddioddef gwahaniaethu, ac yn awgrymu nad oedd ganddo "reswm i feddwl bod ef neu hi yn llai effeithiol fel athrawes o ganlyniad i newid rhyw, oni bai fod cyhoeddusrwydd o amgylch yr achos wedi achosi anawsterau cymdeithasol sy’n gwneud addysgu effeithiol yn broblem".  Cynigiodd hefyd gael sgyrsiau pellach gyda staff yr asiantaeth dros y ffôn.

Dyfarnodd y Tribiwnlys fod y driniaeth yn cyfateb i erledigaeth ac yn gwahaniaethu yn erbyn yr athrawes, a bod y Cyngor a’i chyn-reolwr yn atebol am hynny.

Dim ond ar ôl i’r athrawes gysylltu â’r asiantaeth yn uniongyrchol rai misoedd yn ddiweddarach, am fod yr asiantaeth wedi gwrthod rhoi gwaith iddi, y canfu bod y ffacs cyfrinachol yn bodoli. Roedd y Cyngor wedi methu â datgelu ei fodolaeth pan ofynnwyd iddo’n wreiddiol.

Yn 2005, a hithau heb gael unrhyw waith, cysylltodd yr athrawes â’i chyn-reolwr am eirda ond cafodd ei gwrthod.  Dyfarnodd y Tribiwnlys fod y Cyngor a’r rheolwr wedi gwahaniaethu ymhellach ac wedi erlid yr athrawes trwy wrthod y cais am ail eirda a gwrthod clywed ei chwyn ynglŷn â’r gwrthodiad. Methodd y Cyngor hefyd â mabwysiadu gweithdrefnau’r Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer pobl drawsrywiol ac roedd wedi anwybyddu canllawiau’r Comisiwn Cyfle Cyfartal ar gyflogaeth pobl drawsryweddol.

Er bod y Cyngor wedi gwneud cais am adolygu dyfarniadau’r Tribiwnlys Cyflogaeth o wahaniaethu ac erledigaeth, ac wedi cyflwyno Apêl, bu'r ddau yn aflwyddiannus.

Yn ogystal â dyfarnu iawndal o £34,765.18 i’r athrawes am golli cyflog a niwed i deimladau, argymhellodd y Tribiwnlys fod y Cyngor yn darparu geirda nad oedd yn gwahaniaethu i unrhyw ddarpar gyflogwr neu asiantaeth gyflogaeth.

P v (1) S and (2) Cornwall County Council (1996 IRLR 347)(ECJ)

Roedd P wedi’i chyflogi fel rheolwr cyffredinol sefydliad addysgol a gâi ei weithredu gan Gyngor Sir Cernyw, ac wedi’i recriwtio fel dyn yn wreiddiol. Pan ddywedodd P wrth ei chyflogwr ei bod yn bwriadu newid rhyw, cafodd ei diswyddo. Cyflwynodd gŵyn o wahaniaethu ar sail rhyw.

Penderfynodd y tribiwnlys diwydiannol mai’r gwir reswm am ddiswyddo P oedd gwrthwynebiad ei chyflogwr i’w bwriad i gael llawdriniaeth i newid rhyw. Nid oedd y tribiwnlys o’r farn, beth bynnag, bod gan P achos o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw, am fod y Ddeddf yn gwahardd trin menywod a dynion yn anffafriol dim ond am eu bod yn perthyn i un rhyw neu’r llall, nid am eu bod yn bobl drawsryweddol, ac roedd y tribiwnlys yn fodlon y byddai P wedi’i diswyddo am gael llawdriniaeth newid rhyw waeth a oedd hi’n ddyn neu’n fenyw. Penderfynodd y tribiwnlys ofyn i Lys Cyfiawnder Ewrop am ddyfarniad ynghylch a oedd y Gyfarwyddeb Triniaeth Gyfartal yn ehangach o ran cwmpas na’r Ddeddf.

Wrth ddyfarnu, dywedodd y Llys Cyfiawnder fod y Gyfarwyddeb Triniaeth Gyfartal yn nodi na ddylid 'gwahaniaethu o gwbl ar sail rhyw', a bod yr hawl i beidio â wynebu gwahaniaethu ar sail rhyw yn un o’r hawliau dynol sylfaenol y mae gan y Llys Cyfiawnder ddyletswydd i’w sicrhau. Felly, ni ellir cyfyngu cwmpas y Gyfarwyddeb i achosion o wahaniaethu yn unig ar y sail bod unigolyn yn ddyn neu’n fenyw. Yn sgil ei diben a natur yr hawliau y mae’n ceisio eu diogelu, rhaid i’r Gyfarwyddeb hefyd fod yn berthnasol i wahaniaethu sy’n deillio o ailbennu rhywedd. Mae gwahaniaethu o’r fath yn seiliedig, yn y bôn os nad yn gyfan gwbl, ar ryw y sawl sydd dan sylw.  Os yw unigolyn yn cael ei ddiswyddo ar y sail ei fod ef neu hi yn bwriadu neu wedi ailbennu rhywedd, mae ef neu hi yn cael ei drin yn anffafriol o gymharu ag unigolion o’r rhyw yr ystyrid ei fod ef neu hi yn perthyn iddo cyn gwneud hynny. Mae yn groes i’r Gyfarwyddeb felly i ddiswyddo unigolyn trawsrywiol am reswm sy’n ymwneud â’r ffaith iddo ef neu hi ailbennu rhywedd.

Pan ddaeth achos P yn ôl i’r tribiwnlys diwydiannol, cefnogwyd ei chŵyn o wahaniaethu. Cytunodd y partïon ar iawndal o swm na chafodd ei ddatgelu cyn i’r gwrandawiad ar iawndal ddod i ben.

Chessington World of Adventure v Reed (1997 IRLR 556) (EAT)

Roedd Ms Reed wedi dioddef ymgyrch faith o gam-drin ac aflonyddu gan ei chydweithwyr pan gyhoeddodd ei bod yn bwriadu newid ei rhyw o ddyn i fenyw. Dyfarnodd y Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth ei bod yn anghyfreithlon o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw i wahaniaethu oherwydd i rywun ddatgan bwriad i ailbennu rhywedd.

Mills and Crown Prosecution Service v Marshall (1998IRLR 494) (EAT)

Ym 1993, fel dyn, gwnaeth Ms Marshall gais llwyddiannus i ymuno â Gwasanaeth Erlyn y Goron. Fodd bynnag, tynnwyd y cynnig hwn am swydd yn ôl pan ddywedodd wrthyn nhw ei bod yn bwriadu dechrau yn y swydd fel menyw. Ni chyflwynodd Ms Marshall hawliad i’r tribiwnlys ynglŷn â’i thriniaeth tan 1996 yn dilyn dyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop yn achos P v S and Cornwall County Council (uchod) gan y tybid, tan hynny, nad oedd y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn cwmpasu gwahaniaethu ar sail trawsrywioldeb. Ystyriodd y tribiwnlys ei bod yn gyfiawn a theg i wrando ar yr hawliad gan fod Ms Marshall wedi gweithredu’n gyflym pan ddaeth yn ymwybodol bod y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn cwmpasu gwahaniaethu ar sail trawsrywioldeb. Daeth yr achos i setliad ar delerau cyfrinachol ar ôl i fater y terfyn amser gael ei ddatrys.

Whittle v The Parochial Church Council of the Parish of St John the Evangelist (1996 ET)

Ym 1982, cafodd Mr Whittle ei ddiswyddo oherwydd ei drawsrywioldeb. Gwnaeth gŵyn i’r tribiwnlys am ei ddiswyddiad ym 1996 pan ddaeth yn ymwybodol gyntaf bod gwahaniaethu o’r fath wedi’i ddyfarnu yn wahaniaethu anghyfreithlon ar sail rhyw. Fodd bynnag, penderfynodd y tribiwnlys yn yr achos hwn nad oedd yn gyfiawn na theg i glywed yr hawliad wedi’r terfyn amser gan ei bod yn anorfod y byddai bwlch o 14 blynedd wedi effeithio’n sylweddol ar ansawdd y dystiolaeth gan y ddwy ochr; roedd rhai dogfennau yn ymwneud â’i ddiswyddiad wedi’u distrywio a chredid bod un o’r bobl a oedd yn gysylltiedig â’r achos wedi marw.

Elmes v Exeter District Council and others (1996 ET)

Cafodd Ms Elmes (unigolyn trawsrywiol a newidiodd o ddyn i fenyw) ei diswyddo o’i swydd fel cynghorydd oherwydd bod ei chyflogwyr yn fwyfwy pryderus am ei hymddangosiad benywaidd.

Roedd y Tribiwnlys Diwydiannol yn wreiddiol wedi ystyried nad oedd y ddeddfwriaeth wedi’i thorri ond adolygwyd y farn yn dilyn penderfyniad Llys Cyfiawnder Ewrop yn achos P v S and Cornwall County Council (uchod). Dyfarnwyd iawndal o £30,740 i Ms Elmes (gyda £13,967 am niwed i’w theimladau).

M v West Midlands Police (1996 ET)

Gwnaeth M gais i ymuno â Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr fel cwnstabl, ar ôl bod trwy broses ailbennu rhywedd o fod yn wryw i fod yn fenyw. Pasiodd y gweithdrefnau asesu a dywedwyd wrthi ei bod yn addas i’w phenodi. Gan fod y tystysgrifau ysgol y byddai’n rhaid iddi eu cyflwyno yn dangos mai dyn oedd hi’n arfer bod, penderfynodd M ddweud wrth Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr am ei thrawsrywioldeb. Wedi hynny derbyniodd lythyr yn gwrthod ei derbyn oherwydd iddi ailbennu rhywedd.  Roedd Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr yn ystyried na fyddai’n briodol iddi gyflawni rhai o ddyletswyddau’r swydd gan gynnwys chwilio pobl sy’n cael eu drwgdybio o drosedd.

Dyfarnodd y Tribiwnlys Diwydiannol nad oedd gwahaniaethu ar sail newid rhyw o fewn cwmpas y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw/Cyfarwyddeb Triniaeth Gyfartal, ond hyd yn oed os oedd, fod gan yr Heddlu amddiffyniad o dan a7 o’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw sy’n ymdrin â chymwysterau galwedigaethol gwirioneddol ac o dan Erthygl 2.2 o’r Gyfarwyddeb. Bu achos M yn aflwyddiannus.

Ers gwrando’r achos hwn, mae’r Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth wedi penderfynu bod y Ddeddf a’r Gyfarwyddeb yn cwmpasu gwahaniaethu ar sail trawsrywioldeb (gweler Chessington World of Adventure v Reed). Fodd bynnag, ers hynny, mae’r Ddeddf wedi’i diwygio i’w gwneud yn gyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn pobl drawsrywiol wrth recriwtio am swydd os yw’r gwaith yn golygu bod y deilydd yn cynnal chwiliadau personol yn unol â phwerau statudol fel sydd yn Neddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol, er enghraifft.

Malone v Ministry of Defence (1997 ET)

Cafodd Ms Malone ei diswyddo o’r Llu Awyr Brenhinol ym 1993 ac roedd o’r farn bod hynny oherwydd ei thrawsrywioldeb. Cyflwynodd ei chŵyn i’r tribiwnlys ym 1994 ymhell ar ôl y terfyn amser o 3 mis. Roedd y tribiwnlys yn ystyried ei bod yn gyfiawn a theg i glywed yr hawliad gan nad oedd yn hysbys adeg y diswyddo y byddai’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw/Cyfarwyddeb Triniaeth Gyfartal yn cwmpasu gwahaniaethu a oedd yn codi ar sail trawsrywioldeb. Hefyd, gan nad oedd y gyfarwyddeb ar y mater hwn wedi’i throsi i ddeddfwriaeth ddomestig (y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw), nid oedd y terfyn amser wedi cychwyn.

Clare v Fairburn t/a The Old Rectory Nursing Home (1997 ET)

Roedd Ms Clare o’r farn nad oedd wedi’i dewis ar gyfer swydd cynorthwyydd gofal ar ôl ei chyfweliad am ei bod yn drawsrywiol.  Hawliodd yr ymatebwyr ei bod wedi’i gwrthod oherwydd ei diffyg cymwysterau, profiad ac oed nid oherwydd ei thrawsrywioldeb. Derbyniodd y tribiwnlys y rhesymau a gyflwynwyd gan yr ymatebwyr. Bu hawliad Ms Clare yn aflwyddiannus.

A v Chief Constable of the West Yorkshire Police [2004] 2 All ER 145

Aeth A trwy broses ailbennu rhywedd o fod yn wryw i fod yn fenyw ym 1996. Ym 1997 gwnaeth gais i ymuno â Heddlu Gorllewin Swydd Efrog. Gwnaeth yn glir o’r cychwyn ei bod yn unigolyn trawsrywiol a dywedwyd wrthi, yn unol â pholisi cyfle cyfartal yr Heddlu, na fyddai hyn yn broblem. Gwahoddwyd hi i barhau gyda’i chais a chwblhaodd y gwahanol brofion dethol yn llwyddiannus. Fodd bynnag, dywedwyd wrthi wedyn  bod mater ymgeiswyr trawsrywiol wedi’i ystyried ymhellach ers derbyn ei chais gwreiddiol, ac y gwnaed penderfyniad na fyddai pobl drawsrywiol yn cael eu penodi i’r Heddlu. Roedd yr Heddlu yn dadlau na fyddai A, fel unigolyn trawsrywiol, yn gallu cynnal chwiliadau personol a chwiliadau corfforol ar bobl a gâi eu drwgdybio o droseddau, ac felly ni allai gyflawni’r amrywiaeth lawn o swyddogaethau plismon. (Mae Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol yn ei gwneud yn ofynnol i bobl sy’n cael eu hamau o drosedd gael eu chwilio gan swyddog o’r heddlu o’r un rhyw).

Cyrhaeddodd yr achos Dŷ’r Arglwyddi, ble y dyfarnwyd y byddai gwrthod cais A yn groes i Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw, a oedd yn cadarnhau dyfarniad blaenorol y Llys Apêl.

Fortnum v Suffolk County Council (ET 2000)

Roedd Ms Fortnum (person trawsrywiol a newidiodd o fod yn wryw i fod yn fenyw) wedi’i chyflogi fel swyddog gofal dydd cynorthwyol ac roedd angen iddi roi gofal personol achlysurol i ddynion a menywod a oedd yn gleientiaid canolfan dydd. Ym mis Mai 1999, dywedodd y Cyngor wrthi na allai barhau i ddarparu gofal personol i un o’r menywod ag anawsterau dysgu gan fod mam y cleient wedi gwneud cais i’w merch gael gofal gan fenywod yn unig. Nid oedd y cleient a’i mam yn ymwybodol bod Ms Fortnum wedi bod trwy broses ailbennu rhywedd. Roedd y Cyngor wedi penderfynu nad oedd Ms Fortnum yn fenyw gan nad oedd ar y pryd wedi cael llawdriniaeth. Ystyriodd y tribiwnlys fod y Cyngor yn dibynnu ar gymhwyster galwedigaethol gwirioneddol - na ellid darparu’r gwasanaethau hyn yn effeithiol gan rywun a oedd yn y broses o ailbennu rhywedd (Adran 7B(2)(d)), a dyfarnodd fod hyn yn broblem gan fod Ms Fortnum wedi bod yn darparu’r gwasanaethau hyn yn effeithiol i’r cleient am beth amser cyn y dywedwyd wrthi am beidio â gwneud hynny. Nid oedd unrhyw dystiolaeth i ddangos bod y Cyngor wedi rhoi sylw i ystyried a allai Mrs Fortnum ddarparu’r gwasanaeth yn effeithlon. Bu ei hawliad yn llwyddiannus.

A, D a G v Lancashire Health Authority (Llys Apêl; Gorffennaf 1999)

Roedd A, D a G yn dair menyw drawsrywiol (Gwryw i Fenyw) a gwrthododd y GIG gyllido llawdriniaeth ailbennu rhywedd y dair a argymhellwyd gan yr arbenigwyr clinig hunaniaeth o ran rhywedd a oedd yn ymdrin â’u hachosion.  Mae’r gyfraith yn caniatáu i gyrff y GIG (Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol bellach) i wneud penderfyniadau lleol ar sut i flaenoriaethu’r ffordd y maent yn dyrannu arian cyhoeddus cyfyngedig i ddarparu triniaeth ar gyfer yr ystod lawn o gyflyrau meddygol yn eu hardal.  Roedd Awdurdod Iechyd Swydd Gaerhirfryn (fel y bodolai ar y pryd) wedi penderfynu ar y sail hon i beidio â chaniatáu cyllid ar gyfer llawdriniaeth ailbennu rhywedd.  Roedd yn rhaid i’r gwrandawiad cychwynnol yn yr Uchel Lys benderfynu’n gyntaf ai llawdriniaeth ailbennu rhywedd oedd y driniaeth briodol ar gyfer Anesmwythder Rhyw.  Cytunwyd fod Anesmwythder Rhyw yn gyflwr meddygol ac, felly, dylid ei drin ar y GIG.  O ran y mater mwy cynhennus o sut i’w drin, dyfarnodd yr Ustus Hidden (ar sail tystiolaeth arbenigwyr) mai llawdriniaeth ailbennu rhywedd oedd yr ymyriad priodol.  Hefyd, dyfarnodd yr Ustus Hidden bod polisi cyllido a oedd yn gyfystyr, yn ymarferol, â gwaharddiad hollgynhwysfawr yn anghyfreithlon ac yn afresymol.  Apeliodd yr Awdurdod Iechyd yn erbyn y dyfarniad olaf, a roddwyd ym mis Rhagfyr 1998, ond cadarnhaodd y Llys Apêl y canfyddiadau ym mis Gorffennaf 1999.  Noder fod achosion amlwg dilynol a oedd yn herio penderfyniadau cyllid eraill y GIG (e.e. Rogers v Swindon NHS Primary Care Trust), tra’n cyfeirio at sail resymegol achos A, D a G, wedi pwysleisio ei fod yn parhau i sefyll, hyd yn oed os ydynt wedi dyfarnu’r achosion dilynol hynny yn wahanol ar sail y ffeithiau.

Rhagor o wybodaeth am achosion cyfreithiol

Mae gan Press for Change lyfrgell o’r dyfarniadau llawn mewn perthynas â’r rhain ac achosion tebyg eraill ar ei wefan.

 

back to top