Mae gan weithiwr sydd yn credu iddo gael ei wahaniaethu’n anghyfreithlon hawl i wneud hawliad Tribiwnlys Cyflogaeth.
Gall amddiffyn hawliad Tribiwnlys Cyflogaeth fod yn faith, drud a beichus a gall gael effaith niweidiol ar enw da eich sefydliad.
Mae ceisio unioni pethau cyn i hawliad gael ei gyflwyno gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth yn debygol o fod yn fuddiol i bawb.
Pe bai gennych weithdrefn dda ar gyfer datrys cwynion yn ymwneud â gwahaniaethu, hwyrach y gallwch osgoi sefyllfa lle bo rhywun yn ei chael hi’n angenrheidiol i ddwyn hawliad yn eich erbyn.
Mae sicrhau bod eich gweithwyr yn credu bod cwynion am wahaniaethu anghyfreithlon yn cael eu hystyried o ddifrif yn ffactor bwysig, hyd yn oed pan maen nhw’n codi’n llai ffurfiol y tu allan i’ch trefnau achwyn ffurfiol. Ffactor bwysig arall yw bod rhywbeth yn digwydd i unioni’r sefyllfa os oes rhywun wedi gwahaniaethu’n anghyfreithlon.
Rhowch wybod i’ch gweithwyr beth yw’r opsiynau am ddod â gwahaniaethu anghyfreithlon i’ch sylw, a sut i ddefnyddio eich trefnau, gan gynnwys:
- trafod y sefyllfa’n anffurfiol â chi neu reolwr, a
- defnyddio eich trefnau achwyn ffurfiol.
Gwnewch hi’n eglur beth fydd yn digwydd os, ar ôl ymchwilio, byddwch yn canfod bod rhywun wedi gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn rhywun arall:
- y byddwch, os yw’n angenrheidiol, yn cymryd unrhyw gamau disgyblu sydd yn eich tyb chi’n briodol
- y byddwch, os yw’n angenrheidiol, yn newid y ffordd rydych yn gwneud pethau fel na fo’r cyfryw beth yn digwydd eto; yna gwnewch yn siŵr eich bod yn ei wneud.
Hefyd:
- ystyriwch hyfforddiant cydraddoldeb ar gyfer eich hun a/neu bobl sydd yn gweithio ichi
- ystyriwch gael polisi cydraddoldeb.