P’un a ydych yn penderfynu y bu gwahaniaethu anghyfreithlon ai peidio, sicrhewch nad ydych yn trin y person a wnaeth y gŵyn yn wael. Er enghraifft, gall gorfodi’r gweithiwr a wnaeth y gŵyn i adleoli i ran arall eich sefydliad (os yw’n ddigon mawr) yn rhwym o fod yn erledigaeth. Fodd bynnag, os yw’n gofyn i gael ei adleoli, dylech wneud hynny os ydych yn siŵr mai dyna’n union mae e am ei wneud, ac nid yw’n arwydd nad ydych wedi delio â’r gwyn yn briodol.
Mae eisiau i chi fonitro’r sefyllfa i sicrhau bod y gwahaniaethu anghyfreithlon (os ddarganfyddoch fod gwahaniaethu wedi digwydd) wedi peidio ac nad yw’r gweithiwr a wnaeth y gŵyn nac unrhyw un a’i helpodd wedi profi unrhyw erledigaeth.
Os nad yw’r gweithiwr yn fodlon ar yr hyn a ddigwyddodd, yna mae’n bosib y bydd yn penderfynu dwyn hawl yn y Tribiwnlys Cyflogaeth.
Rhagor o wybodaeth