Sicrhau nad yw pobl anabl yn colli allan ar gyfleoedd hyfforddi, datblygu, dyrchafu neu drosglwyddo drwy wahaniaethu anghyfreithlon

I sicrhau nad ydych yn eithrio  pobl anabl rhag cyfleoedd hyfforddi, datblygu, dyrchafu neu drosglwyddo, mae angen ichi edrych ar sut ydych yn disgrifio’r rôl a’r person rydych yn edrych amdano.

Mae rhaid ichi ystyried nid yn unig a ydych yn gwahaniaethu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol oherwydd anabledd person, ond hefyd:

  • A ydych yn eu trin mewn ffordd neilltuol sydd, oherwydd rhywbeth sy’n gysylltiedig â’u hanabledd, yn eu rhoi dan anfantais ac na allwch gyfiawnhau’r ffordd o wneud yr hyn rydych yn ei wneud (‘gwahaniaethu sy’n codi o anabledd’).
  • A oes angen addasiadau rhesymol i alluogi i berson dderbyn cyfle hyfforddi, datblygu, dyrchafu neu drosglwyddo.

 

Hyfforddiant

Sicrhewch nad ydych yn gwahaniaethu yn erbyn neu’n achosi anfantais sylweddol i unrhyw weithwyr anabl. Ystyrir fod unrhyw beth sy’n fwy na bach neu ddibwys  yn anfantais sylweddol.

Efallai y bydd hyn yn gofyn ichi wneud addasiadau rhesymol i weithdrefnau dewis ar gyfer hyfforddiant neu i’r trefniadau hyfforddi eu hunain. Gallai olygu newid y ffordd rydych yn gwneud pethau, neu newidiadau i’r safle a ddefnyddir ar gyfer hyfforddiant, neu ddarparu cymhorthion, gwasanaethau neu offer ychwanegol.

Gallwch ddarllen rhagor am wneud addasiadau rhesymol i gael gwared ar rwystrau i bobl anabl.

Mae hyn yn cynnwys edrych ar sut ydych yn rhoi mynediad i gyfleoedd secondiad i bobl anabl, cysgodi gwaith, cael mynediad i fentor neu fynychu digwyddiad a all helpu gweithiwr i ddatblygu eu gyrfa.
 

Hyfforddiant arbenigol

Efallai y bydd angen ichi ddarparu hyfforddiant arbenigol i weithwyr anabl er mwyn iddynt ddefnyddio addasiadau rhesymol yn effeithiol. Gallai hyn gynnwys hyfforddiant ar offer sydd ganddynt fel addasiad, er enghraifft, meddalwedd cyfrifiadur arbenigol.

Neu gallai’r hyfforddiant ei hunan fod yn addasiad, er enghraifft, hyfforddiant cyfeiriadedd mewn gweithle newydd os oes gan rywun anabledd dysgu neu nam ar y golwg.

Hyfforddiant ar gyfer staff eraill

Fel addasiad rhesymol, dylech feddwl a oes angen hyfforddiant ar staff eraill i weithio gyda chydweithiwr anabl (cyhyd â bod y person anabl wedi rhoi caniatád i’r staff eraill wybod am eu sefyllfa). Gallai hyn amrywio o hyfforddiant arbenigol ar gyfer rheolwyr sy’n gwneud penderfyniadau am addasiadau rhesymol drwodd i bethau fel hyfforddiant ymwybyddiaeth Byddardod ar gyfer pobl sydd â chydweithiwr Byddar.
 
 

Dyrchafu neu drosglwyddo

Os yw person a allai fod yn gymwys am ddyrchafiad neu drosglwyddiad neu gyfle datblygu arall yn berson anabl:

  • Mae rhaid ichi beidio gwneud rhagdybiaethau am eu galluoedd na’u parodrwydd i dderbyn rôl newydd.
  • Hefyd mae’n bwysig ichi ystyried a oes angen cymwysterau neilltuol mewn gwirionedd neu ai lefel sgil neilltuol yw’r hyn rydych ei  angen mewn gwirionedd.
  • Ni ddylai unrhyw wybodaeth am y rôl ddweud na chyfleu ei bod yn anaddas ar gyfer person anabl oni bai fod rheswm eglur am hyn sy’n perthyn i’r rôl.
  • Dylech ddweud wrth bawb, gan gynnwys gweithwyr sydd ag anabledd, am unrhyw ddyrchafiad neu drosglwyddiad neu unrhyw gyfle datblygu arall. Mae hyn yn cynnwys rhoi’r wybodaeth iddynt yn y fformat maent yn arfer ei ddefnyddio yn y gwaith, er enghraifft, print bras neu ffurf electronig. Mae hyn yn debyg o fod yn addasiad rhesymol.
  • Os penderfynwch gyfweld rhywun am ddyrchafiad neu am gyfle arall ac y gwyddoch eu bod yn berson anabl mae rhaid ichi wneud unrhyw addasiadau rhesymol sydd eu hangen arnynt i fynychu ac i gyfranogi yn y cyfweliad.
  • Wrth asesu addasrwydd person anabl ar gyfer y rôl newydd mae angen ichi ystyried sut y gallai addasiadau rhesymol eu galluogi i gwrdd â’r gofynion newydd.
  • Os penderfynwch, ar ôl gweithio allan sut y gallai addasiadau rhesymol alluogi i berson anabl gwrdd â gofynion newydd rôl rydych yn ystyried eu dyrchafu iddi, nad hwy yw’r person gorau am y dyrchafiad, nid oes rhaid ichi ei gynnig iddynt. Wrth gwrs os mai hwy yw’r person gorau byddwch eisiau ei gynnig iddynt gan wneud yr addasiadau rhesymol.

 

 

Rhagor o wybodaeth

back to top