Darparu cyfarpar neu gymhorthion ychwanegol

Mae trydydd gofyniad y ddyletswydd yn cynnwys darparu cyfarpar ychwanegol – yr hyn a elwir dan gyfraith cydraddoldeb yn gymorth ategol – a gwasanaethau ategol, lle mae rhywun arall yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo’r person anabl, fel darllenwr, dehonglwr iaith arwyddion neu weithiwr cefnogi.

Gall cymorth neu wasanaeth ategol ei gwneud yn haws i berson anabl wneud ei swydd neu i gymryd rhan mewn cyfweliad neu broses ddethol. Felly fe ddylech ystyried a yw’n rhesymol darparu hyn.

Bydd y math o gyfarpar neu gymorth neu wasanaeth yn dibynnu’n llwyr ar y person anabl unigol a’r swydd y maent yn ei gwneud neu y byddant yn ei gwneud neu’r hyn sy’n rhan o’r broses recriwtio. Mae’n bosib bod gan y person anabl ei hunan brofiad o’r hyn sydd ei angen arno, neu mae’n bosib y byddwch yn gallu cael cyngor arbenigol oddi wrth rai o’r sefydliadau a restrir yn Ffynonellau pellach ar gyfer gwybodaeth a chyngor.
 

Rhagor o wybodaeth

back to top