Delio â rhwystrau ffisegol

Mae’r ail ofyniad yn cynnwys gwneud newidiadau i ddatrys rhwystrau y mae nodweddion ffisegol eich gweithlu yn eu creu.
Golyga hyn y bydd o bosib angen i chi wneud rhai newidiadau i’ch adeilad neu’ch safle ar gyfer person anabl sy’n gweithio i chi, neu sy’n ceisio am swydd gyda chi.

Bydd pa fath yn union o newid a wnewch yn dibynnu ar y math o rwystrau sydd yn eich safle. Bydd arnoch angen ystyried eich safle cyfan ac mae’n bosib y bydd arnoch angen gwneud mwy nag un newid.

Ymhlith newidiadau ffisegol mae: grisiau, cyrbau, arwynebau a phafin awyr agored, ardaloedd parcio, mynedfeydd ac allanfeydd adeiladau (gan gynnwys llwybrau dianc mewn argyfwng), drysau mewnol ac allanol, gatiau, cyfleusterau toiled ac ymolchi, cyfleusterau cyhoeddus (fel ffonau, cownteri neu ddesgiau gwasanaeth), golau ac awyru, lifftiau a grisiau symudol, gorchuddion llawr, arwyddion, dodrefn, ac eitemau dros dro neu symudol (fel cyfarpar a rheseli arddangos). Mae nodweddion ffisegol hefyd yn cynnwys maint y safle (er enghraifft, maint adeilad). Nid yw hon yn rhestr gyflawn.

  • Gallai nodwedd ffisegol fod yn rhywbeth sy’n ymwneud â strwythur yr adeilad ei hunan, fel grisiau, newid yn y lefel, allanfeydd brys neu byrth cul.
  • Neu fe all fod yn rhywbeth ynghylch y modd y mae pethau wedi’u hychwanegu at yr adeilad neu’r safle, fel drysau trwm, toiledau anodd eu cyrraedd neu oleuadau anaddas.
  • Gallai hyd yn oed fod y modd y mae pethau wedi’u trefnu dan do yn y safle, fel gosodion a ffitiadau, fel uchder silffoedd mewn ardaloedd storio neu seddau gosodedig yn y cantîn.

Er enghraifft:

Mae cyflogwr wedi recriwtio gweithiwr sy’n defnyddio cadair olwyn ac a fyddai’n cael trafferth symud o gwmpas y swyddfa. Gan ymgynghori â’r gweithiwr newydd, mae’r cyflogwr yn aildrefnu cynllun y dodrefn yn y swyddfa. Mae’r cyflogwr wedi gwneud addasiadau rhesymol.
 

Rhagor o wybodaeth

back to top