Mae’r ddyletswydd hon yn berthnasol i unrhyw berson anabl:
Mae’n berthnasol i bob cam ac agwedd ar gyflogaeth. Nid oes ots a oedd y gweithiwr yn berson anabl pan gychwynnodd weithio i chi, ynteu a ddaeth yn anabl yn ystod y cyfnod o weithio i chi.
Gall y ddyletswydd hefyd fod yn berthnasol wedi i’r gyflogaeth ddod i ben.
Mae’r ddyletswydd hefyd yn berthnasol o ran gwasanaethau cyflogaeth, gyda rhai gwahaniaethau sy’n cael eu hesbonio’n ddiweddarach yn y bennod hon.
Mae’n bosib y bydd angen addasiadau rhesymol hefyd o ran cynlluniau pensiwn galwedigaethol. Mae hyn yn cael ei esbonio’n ddiweddarach yn y rhan hon o'r canllaw.
Rhagor o wybodaeth