Pwy sy’n talu am addasiadau rhesymol?

Os yw rhywbeth yn addasiad rhesymol, rhaid i chi dalu amdano fel y darpar gyflogwr neu, wedi i weithiwr newydd ddechrau, fel y cyflogwr. Gellir ystyried cost addasiad wrth benderfynu p’un a yw’n rhesymol ai peidio.

Fodd bynnag, mae cynllun gan y llywodraeth o’r enw Mynediad i Waith a all helpu person y mae ei iechyd neu ei anabledd yn effeithio ar ei waith, trwy roi cyngor a chefnogaeth iddo. Gall Mynediad i Waith helpu â chostau ychwanegol na fyddai’n rhesymol i gyflogwr neu ddarpar gyflogwr eu talu.

Er enghraifft, mae’n bosib y bydd Mynediad i Waith yn talu cyfran o gost cyrraedd y gwaith os nad yw’r person anabl yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, neu am gymorth â chyfathrebu mewn cyfweliadau am swydd.

Mae’n bosib y gall person gael cyngor a chefnogaeth oddi wrth Fynediad i Waith os yw:

  • mewn swydd â chyflog, neu
  • yn ddi-waith ac ar fin cychwyn swydd, neu
  • yn ddi-waith ac ar fin cychwyn Treial Gwaith, neu
  • yn hunangyflogedig

ac

  • mae ei anabledd neu ei gyflwr iechyd yn ei rwystro rhag gwneud rhannau o’i swydd.

Sicrhewch fod eich ymgeisydd am swydd yn ymwybodol o Fynediad i Waith. Er mai i’r ymgeisydd am swydd y rhoddir y cyngor a’r gefnogaeth, mae’n amlwg o fudd i chi hefyd. Ceir gwybodaeth am Fynediad i Waith yn Ffynonellau pellach ar gyfer gwybodaeth a chyngor.
 

Rhagor o wybodaeth

back to top