Os credwch eich bod wedi dioddef gwahaniaethu anghyfreithlon, gallwch gael gwybodaeth gan eich cyflogwr i'ch helpu i benderfynu a oes gennych hawliad dilys ai peidio.
Mae ffurflen benodol ar gael i'ch helpu i wneud hyn, gallwch ei chael trwy fynd i www.equalities.gov.uk. Bydd eich cwestiynau'n dal i gyfrif hyd yn oed os na fyddwch yn defnyddio'r ffurflen, cyhyd â'ch bod yn defnyddio'r un cwestiynau. Weithiau cyfeirir at y ffurflen hon fel 'holiadur'.
Os byddwch yn anfon y cwestiynau at eich cyflogwr, nid oes rhaid iddo ymateb i'r cais yn gyfreithiol, nac ateb y cwestiynau, ond gallai peidio â gwneud hyn niweidio'i achos yn y Tribiwnlys Cyflogaeth.
Gall y cwestiynau a'r atebion ffurfio rhan o'r dystiolaeth mewn achos o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (mewn geiriau eraill, y gyfraith a esbonnir yn y canllaw hwn).
Gallwch anfon y cwestiynau at eich cyflogwr cyn i chi wneud hawliad i'r Tribiwnlys Cyflogaeth, wrth anfon eich hawliad, neu ar ôl i chi anfon eich hawliad.
Os byddwch yn eu hanfon ymlaen llaw, rhaid i chi anfon y cwestiynau at eich cyflogwr er mwyn iddo'u derbyn cyn pen tri mis ar ôl yr achos o wahaniaethu anghyfreithlon.
Os ydych wedi anfon eich hawliad i'r Tribiwnlys Cyflogaeth eisoes, rhaid i chi anfon y cwestiynau at eich cyflogwr er mwyn iddo'u derbyn cyn pen 28 diwrnod ar ôl y dyddiad y bydd y Tribiwnlys Cyflogaeth yn derbyn eich hawliad.
Os nad yw eich cyflogwr yn ymateb i'r cwestiynau cyn pen wyth wythnos ar ôl eu derbyn, gall y Tribiwnlys
Cyflogaeth ystyried hynny wrth wneud ei benderfyniad. Gall y Tribiwnlys Cyflogaeth ystyried atebion sy'n ochelgar neu'n aneglur hefyd.
Os ydych yn anfon y cwestiynau at eich cyflogwr, ni ddylai eich cyflogwr eich trin yn wael am eich bod wedi gwneud hynny. Os bydd eich cyflogwr yn gwneud hynny, mae'n sicr y byddai hyn yn enghraifft o drin rhywun yn annheg.
Rhagor o wybodaeth