Heblaw mewn amgylchiadau cyfyng iawn neu at ddibenion cyfyng iawn, ni chaniateir i gyflogwyr ofyn i unrhyw ymgeisydd am swydd am ei iechyd nag unrhyw anabledd nes bod y person wedi cael:
- cynnig swydd naill ai’n llawn neu ar sylfaen amodol, neu
- ei gynnwys mewn grŵp o ymgeiswyr llwyddiannus i gael cynnig swydd pan ddaw swydd ar gael, ble maent yn recriwtio am fwy nag un swydd (er enghraifft, os yw cyflogwr yn agor gweithle newydd neu’n disgwyl cael nifer o swyddi gweigion ar gyfer yr un rôl).
Mae hyn yn cynnwys gofyn y fath gwestiwn fel rhan o’r broses o ymgeisio neu yn ystod cyfweliad. Hefyd mae’n cynnwys anfon holiadur am eich iechyd ichi ei lenwi cyn i’r swydd gael ei chynnig ichi. Cwestiynau mewn cysylltiad ag absenoldeb salwch blaenorol yw cwestiynau sy’n perthyn i iechyd neu i anabledd.
Mae hyn yn perthyn os ydych yn berson anabl neu beidio.
Ni all neb arall ofyn y cwestiynau hyn ar ran y cyflogwr ychwaith. Felly ni all cyflogwr eich cyfeirio at ymarferydd iechyd galwedigaetholna gofyn ichi lenwi holiadur a ddarperir gan ymarferydd iechyd galwedigaethol cyn y gwneir y cynnig o swydd (neu cyn ichi gael eich cynnwys mewn carfan o ymgeiswyr llwyddiannus) heblaw mewn amgylchiadau cyfyng iawn, a eglurir nesaf.
Amcan atal cyflogwyr rhag gofyn cwestiynau am iechyd neu anabledd ywsicrhau yr ystyrir pob ymgeisydd yn iawn i weld a allant wneud y swydd benodol, heb eu diystyru oherwydd problemau sy’n gysylltiedig â’u hiechyd neu eu hanabledd neu sy’n codi oddi wrthynt, fel absenoldeb salwch, a allai ddweud dim byd am eu gallu i wneud y swydd nawr.
Gall y cyflogwr ofyn cwestiynau unwaith ei fod wedi cynnig swydd neu wedi’ch cynnwys mewn carfan o ymgeiswyr llwyddiannus.Pryd hynny, gallai’r cyflogwr sicrhau na fyddai’ch iechyd na’ch anabledd yn eich atal rhag gwneud y swydd. Ond hefyd mae rhaid i’r cyflogwr ystyried a oes addasiadau rhesymol a fyddai’n eich galluogi i wneud y swydd.
Gallwch ddarllen rhagor am addasiadau rhesymol i symud rhwystrau i bobl anabl.
Beth sy'n digwydd os yw cyflogwr yn gofyn cwestiynau am iechyd neu anabledd?
Gall y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ddwyn achos cyfreithlon yn erbyn y cyflogwr os yw’n gofyn unrhyw gwestiynau i ymgeiswyr ynghylch iechyd neu anabledd nas caniateir gan y gyfraith gydraddoldeb. Mae manylion cyswllt y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar ddiwedd y canllaw hwn.
Hefyd, gallwch ddwyn achos yn erbyn cyflogwr os:
- gofynnodd y cyflogwr cwestiynau ynghylch iechyd neu anabledd o fath nas caniateir, ac
- os ydych yn credu fod gwahaniaethu uniongyrchol wedi digwydd fel canlyniad i’r wybodaeth eich bod wedi’i rhoi (neu wedi methu ei rhoi) wrth ateb cwestiynau.
Yn y fath hawliad, bydd y ffaith bod y cyflogwr wedi gofyn y cwestiynau hyn yn symud y baichprofi, felly cyfrifoldeb y cyflogwr fydd profi nad yw wedi gwahaniaethu yn eich erbyn pan, er enghraifft, na chynigiodd y cyflogwr y swydd ichi.
Pryd y caniateir i gyflogwr ofyn cwestiynau am iechyd neu anabledd
Gall cyflogwr ofyn cwestiynau am iechyd neu anabledd pan:
- Maent yn gofyn y cwestiynau i ganfod a oes angen addasiadau rhesymol arnoch am y broses o recriwtio, fel am asesiad neu am gyfweliad.
Er enghraifft:
Mae ffurflen gais yn datgan: ‘Os gwelwch yn dda cysylltwch â ni os ydych eisiau’r ffurflen gais mewn fformat amgen neu os ydych eisiau unrhyw addasiadau ar gyfer y cyfweliad’. Caniateir hyn.
- Maent yn gofyn y cwestiynau i ganfod os gallwch (os ydych yn berson anabl neu beidio) gymryd rhan mewn asesiad fel rhan o’r broses recriwtio, gan gynnwys cwestiynau am addasiadau rhesymol i’r perwyl hwn.
Er enghraifft:
Mae cyflogwr yn recriwtio gweithwyr chwarae ar gyfer canolfan gweithgareddau awyr agoredac mae eisiau cynnal prawf ymarferol i ymgeiswyr fel rhan o’r broses recriwtio. Mae’n gofyn cwestiwn am iechyd er mwyn sicrhau nad oes angen i ymgeiswyr na allant gymryd y prawf (er enghraifft, oherwydd eu bod yn feichiog neu wedi’u hanafu) wneud y prawf. Caniateir hyn.
- Maent yn gofyn cwestiynau at ddibenion monitro.Gallwch ddarllen rhagor am fonitro.
- Maent eisiau sicrhau y gall unrhyw ymgeisydd sy’n anabl elwa o unrhyw fesurau a anelir at wella cyfraddau cyflogaeth pobl anabl.
- Maent yn gofyn y cwestiwn oherwydd fod cael amhariad penodol yn ofyniad galwedigaethol am swydd neilltuol.
Er enghraifft:
Mae cyflogwr eisiau recriwtio gweithiwr prosiect sy’n Fyddar ac yn Ddall sydd â phrofiad personol o fod yn Fyddar ac yn Ddall. Mae hyn yn ofyniad galwedigaethol i’r swydd ac mae hysbyseb y swydd yn datgan ei fod yn ofyniad galwedigaethol. Gall y cyflogwr ofyn ar y ffurflen gais neu yn y cyfweliad am anabledd yr ymgeisydd.
- Ble mae’r cwestiynau’n berthnasoli ofyniad i wirio ymgeiswyr at ddibenion diogelwch cenedlaethol.
- Ble mae’r cwestiwn yn berthnasoli allu person i gyflawni swyddogaeth sy’n hanfodol (neu sy’n gwbl sylfaenol) i’r swydd honno. Ble fyddai cwestiwn ynghylch iechyd neu anabledd yn golygu y byddai’r cyflogwr yn gwybod y gallwch gyflawni’r swyddogaeth honno gydag addasiadau rhesymol, gall y cyflogwr ofyn y cwestiwn.
Er enghraifft:
Mae cwmni adeiladu’n recriwtio sgaffaldwyr. Gall y cwmni ofyn am iechyd neu anabledd ar y ffurflen gais neu yn y cyfweliad os yw’r cwestiynau’n berthnasolyn benodol i allu ymgeisydd i ddringo ysgolion a sgaffaldiau hyd at uchder arwyddocaol. Mae’r gallu i ddringo ysgolion a sgaffaldiau’n swyddogaeth sy’n hanfodol neu sy’n sylfaenol i’r swydd.
Yn ymarferol, hyd yn oed os yw swyddogaeth yn hanfodol i’r swydd, dylai’r cyflogwr ofyn ichi (os ydych yn berson anabl) am eich gallu i wneud y swydd gydag addasiadau rhesymol. Bydd ychydig iawn o sefyllfaoedd ble fydd angen gofyn cwestiwn am anghenion iechyd neu anabledd person.
Y rhan fwyaf o’r amser,boed ar ffurflen gais neu yn ystod cyfweliad, dylai cyflogwr ofyn cwestiwn ichi ynghylch a yw’r sgiliau, nodweddion neu brofiad perthnasol gennych i wneud y swydd, nid cwestiwn ynghylch eich iechyd neu unrhyw anabledd a allai fod gennych.
Er enghraifft:
Mae cyflogwr yn recriwtio person fel cludwr beiciau. Maent yn gofyn i ymgeiswyr anfon CV yn gosod eu profiad perthnasol a llythyr eglurhaol yn dweud pam y byddent yn addas am y swydd. Bydd y cyflogwr yn sgorio ymgeiswyr ar eu profiad o feicio a’u brwdfrydedd drosto. Nid oes angen gofyn cwestiynau i ymgeiswyr am iechyd nag anabledd. Os yw’r cyflogwr yn ystyried fod gwiriad iechyd yn angenrheidiol, er enghraifft, at ddibenion yswiriant, gellir gwneud hyn unwaith y cynnigir y swydd i’r ymgeisydd, a gellir gwneud y cynnig swydd yn amodol ar y gwiriad iechyd.
Os ydych yn datgelu gwybodaeth yn wirfoddol am eich iechyd neu eich anabledd cyn i’r cyflogwr wneud unrhyw gynnig swydd, ni ddylai’r cyflogwr gynnal sgwrs gyda chi sydd y tu allan i’r eithriadau a osodir uchod.