Trafod cyflog gyda chydweithwyr

Er 1 Hydref 2010, mae cymalau cyfrinachedd cyflog mewn cytundebau cyflogaeth yn anymarferol os ydyn nhw’n gysylltiedig â nodwedd warchodedig. Darllenwch ein canllaw am wybodaeth bellach ar sut fydd hyn yn effeithio arnoch chi:

Rydym yn monitro effaith y ddarpariaeth newydd sy’n cyfyngu ar orfodi cyfrinachedd cyflog/cymalau cyfrinachedd (adran 77 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010). Felly, byddai o ddiddordeb i ni glywed gan gyflogeion a chyflogwyr sydd â phrofiad ohono a/neu bryderon  neu ymholiadau amdano. Cysylltwch â equalpayfeedback@equalityhumanrights.com . Caiff y wybodaeth a ddanfonir atom ei gadw’n gyfrinachol ar bob adeg.
 

back to top