Y Ddeddf Hawliau Dynol

Daeth y Ddeddf Hawliau Dynol 1998 i rym yn y Deyrnas Unedig ym mis Hydref 2000. Lluniwyd hi mewn cyfres o adrannau sydd â’r effaith o gyfundrefnu’r amddiffyniadau yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol i mewn i gyfraith y Deyrnas Unedig.

Mae rhaid i bob corff cyhoeddus, (fel llysoedd, yr heddlu, llywodraethau lleol, ysbytai, ysgolion a ariannir yn gyhoeddus, ac eraill) a chyrff eraill yn ymgymryd â swyddogaethau cyhoeddus, gydymffurfio â hawliau’r Confensiwn.

Mae hyn yn golygu, ymysg pethau eraill, y gall unigolion ddwyn ag achos hawliau dynol gerbron llysoedd teuluol; nid oes rhaid iddynt bellach fynd i Strasbourg i ddadlau yn Llys Hawliau Dynol Ewrop.

Mae’r ddeddf yn gosod allan y rhyddfreiniau a’r hawliau sylfaenol y mae gan unigolion yn y Deyrnas Unedig yr hawl iddynt. Maen nhw’n cynnwys:

Yr hawl i fywyd
Diogelu rhag arteithio a chamdriniaeth
Hawl i ryddid a diogelwch
Diogelwch rhag caethiwed a llafur gorfodol
Yr hawl i dreial teg
Dim cosb heb gyfraith
Parch am fywyd preifat a theuluol
Rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd
Rhyddid mynegiant
Rhyddid ymgynnull a chymdeithasiad
Yr hawl i briodi a dechrau teulu
Diogelwch rhag gwahaniaethu o ran y rhyddid a’r hawliau hyn
Yr hawl i ddiogelu eiddo
Yr hawl i gael addysg
Yr hawl i etholiadau rhydd

Gwybodaeth bellach

I lawr lwytho copi cyfan o’r Ddeddf: Deddf Hawliau Dynol 1998.

Am ragor o wybodaeth ar le y gosodir eich hawliau dynol allan, i bwy mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn gymwys iddynt, ac os gellir cyfyngu arnynt, ewch i Sut mae hawliau dynol yn gweithio?

Am rai astudiaethau achos ar sut y mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn gweithio’n ymarferol, gwelwch ein cyhoeddiad Hawlio’n hawliau sy’n dangos y gwahaniaeth y gall y Ddeddf wneud i fywydau pob dydd pobl.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cynhyrchu canllaw i’r Ddeddf a llyfryn Hawdd ei Ddarllen yn egluro beth mae’r Ddeddf yn ei olygu. Isod mae dolenni i’r adnoddau hyn yn ogystal â chopïau o’r Ddeddf Hawliau Dynol mewn ieithoedd arall:

back to top