Mae gennych hawl i gael parch at eich bywyd preifat, eich bywyd teuluol, eich cartref a’ch gohebiaeth. Ond ar yr un pryd rhaid i chi barchu hawliau pobl eraill hefyd.
Mae’r hawl i fywyd preifat yn golygu bod gennych hawl i fyw eich bywyd yn breifat, heb ymyrraeth y llywodraeth, cyhyd ag y byddwch hefyd yn parchu hawliau pobl eraill.
Mae’r llysoedd wedi dehongli cysyniad ‘bywyd preifat’ mewn ffordd eang iawn. Mae’n cynnwys pethau fel eich hawl i ddewis eich hunaniaeth rywiol, eich ffordd o fyw, a’r ffordd rydych chi’n ymddangos ac yn gwisgo.
Mae hefyd yn cynnwys eich hawl i reoli pwy sy’n gweld ac sy’n cyffwrdd â’ch corff. Er enghraifft, mae hyn yn golygu na all awdurdodau cyhoeddus wneud pethau fel eich gadael yn noeth mewn ward brysur, neu gymryd sampl gwaed heb eich caniatâd.
Mae cysyniad bywyd preifat hefyd yn cynnwys eich hawl i ddatblygu’ch personoliaeth ac i ddatblygu cyfeillgarwch a chysylltiadau personol eraill. Mae hyn yn cynnwys hawl i gymryd rhan mewn gweithgareddau economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a hamdden hanfodol yn y gymuned.
O dan rhai amgylchiadau, efallai y bydd yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus gymryd camau i’ch cefnogi i allu byw bywyd preifat, gan gynnwys eich gallu i gymryd rhan yn y gymdeithas.
Ystyr yr hawl i fywyd preifat yw y gellir atal y cyfryngau ac eraill rhag ymyrryd yn eich bywyd.
Mae hefyd yn golygu y dylid cadw gwybodaeth bersonol amdanoch (gan gynnwys cofnodion swyddogol, ffotograffau, llythyron ,dyddiaduron a chofnodion meddygol) yn ddiogel a pheidio â’u rhannu heb eich caniatâd, ac eithrio o dan amgylchiadau penodol.
Penderfynodd tîm anableddau corfforol mewn awdurdod lleol ddarparu gweithwyr cymorth i hwyluso gweithgareddau cymdeithasol. Aethpwyd â thrigolion at nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol, gan gynnwys ymweld â thafarndai a chlybiau. Gofynnodd un defnyddiwr gwasanaeth a oedd yn hoyw i weithiwr cymorth fynd ag ef i dafarn hoyw. Ond gwrthododd rheolwr y cynllun ar sail y ffaith nad oedd yr un aelod o’i staff yn barod i fynychu lleoliad hoyw. Sylweddolodd eiriolwr a oedd yn gweithio ar ran y defnyddiwr gwasanaeth y gellid defnyddio dadleuon hawliau dynol ar sail yr hawl i barchu bywyd preifat i herio arferion fel hyn.
(Darparwyd yr enghraifft hon gan Sefydliad Hawliau Dynol Prydain.)
Mae gennych hawl i fwynhau eich perthnasoedd teuluol heb ymyrraeth y llywodraeth. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i fyw gyda’ch teulu a, lle na fydd hyn yn bosibl, yr hawl i gysylltiad rheolaidd â nhw.
Gall ‘bywyd teuluol’ gynnwys y berthynas rhwng cwpl di-briod, plentyn a fabwysiadwyd a rhiant sy'n mabwysiadu, a rhiant maeth a phlentyn maeth.
Gweler hefyd yr hawl i briodi.
Ym 1992 gwnaeth cymar benywaidd dyn trawsrywiol roi genedigaeth i blentyn, yn dilyn Semenu Artiffisial drwy driniaeth Rhoddwr (AID). Ar y pryd (cyn y Ddeddf Cydnabod Rhyw) ystyriwyd y dyn yn fenyw gan y gyfraith a gwaharddwyd ef rhag ychwanegu’i enw fel Tad ar dystysgrif geni’r plentyn. Cyflwynodd y teulu gais gerbron Llys Hawliau Dynol Ewrop ar ran eu hunain a’u plentyn, gan ddadlau bod gwrthodiad llywodraeth y Deyrnas Unedig i ganiatáu enw’r dyn ar y dystysgrif geni yn mynd yn groes i’w hawl i breifatrwydd ac yn sarhad ar y teulu cyfan (yn arbennig y plentyn).
Ar yr adeg honno (1996), nid oedd Llys Hawliau Dynol Ewrop yn barod i dderbyn statws y dyn trawsrywiol fel dyn. Ni ddaeth y penderfyniad hwnnw tan ddyfarniad diweddarach (gweler isod); fodd bynnag gwnaeth y barnwyr gydnabod bod y berthynas rhwng y dyn, ei gymar a’u plant yn gyfystyr â theulu.
Oherwydd hyn, mewn dyfarniad diweddarach (Goodwin & I v y Deyrnas Unedig) dyfarnodd Llys Hawliau Dynol Ewrop fod diffyg gallu'r gyfraith i gydnabod pobl drawsrywiol yn eu rhywedd caffaeledig, i ddal tystysgrif geni briodol ar sail rhyw, ac i allu priodi rhywun o’r rhyw arall, yn torri eu hawl i fywyd preifat (Erthygl 8) a’r hawl i fywyd teuluol (Erthygl 12) fel ei gilydd. O ganlyniad i’r dyfarniad hwn ym mis Gorffennaf 2002 cyhoeddodd y Llywodraeth y Ddeddf Cydnabod Rhyw (2004), a greodd fecanwaith i wneud yr holl bethau hyn yn bosibl.
Nid yw’r hawl i gael parch am eich cartref yn hawl i gartref. Yn hytrach, hawl ydyw i fwynhau eich cartref presennol mewn heddwch. Mae hyn yn golygu na ddylai awdurdodau cyhoeddus eich atal rhag mynd i’ch cartref na byw ynddo heb reswm da iawn, ac na ddylent fynd i’ch cartref heb eich caniatâd. Mae hyn yn gymwys p’un a ydych yn berchen ar eich cartref eich un ai peidio.
O bryd i’w gilydd, efallai y bydd yn rhaid i awdurdod cyhoeddus gymryd camau i’ch caniatáu i fwynhau eich cartref yn iawn, er enghraifft, pan fydd cymydog yn cadw gormod o sŵn mewn ffordd sy’n aflonyddu ar eich bywyd.
Gweler hefyd yr hawl i amddiffyn eiddo.
Yn gyffredinol, dylid cadw’ch gohebiaeth y gyfrinachol ac ni ddylid ymyrryd â hi. Mae cysyniad gohebiaeth yn cynnwys cyfathrebu trwy bost, ffôn, ffacs neu e-bost.
Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai y bydd awdurdodau cyhoeddus yn amharu ar eich hawl i gael parch tuag at fywyd preifat a theuluol, eich cartref a’ch gohebiaeth.
Yr unig achosion lle gellir gwneud hyn yw lle gall yr awdurdod ddangos bod i’r camau hyn sail briodol o dan y gyfraith, a’u bod yn angenrheidiol ac yn ‘gymesurol’ er mwyn:
Mae ymateb ‘cymesurol’ i broblem yn un nad yw’n fwy na’r hyn sy’n ofynnol, ac sy’n briodol a heb fod yn ormodol yn yr amgylchiadau.
1. Mae gan bob unigolyn hawl i’w fywyd preifat a theuluol, ei gartref a’i ohebiaeth.
2. Ni fydd unrhyw awdurdod cyhoeddus yn ymyrryd ar arfer yr hawl hon, ac eithrio yn unol â’r gyfraith lle bo’n ofynnol mewn cymdeithas ddemocrataidd er budd diogelwch gwladol, diogelwch cyhoeddus neu les economaidd y wlad, neu i atal anrhefn neu drosedd, neu i amddiffyn iechyd neu foesau, neu i amddiffyn hawliau a rhyddid pobl eraill.
Ceisiodd dyn a oedd yn dioddef iselder gyflawni hunanladdiad trwy dorri ei arddyrnau ar y stryd. Fe’i ffilmiwyd gan gamerâu CCTV yn cerdded ar hyd y stryd gyda chyllell. Yna, cyhoeddwyd y delweddau hyn ar ffurf ffilm a ffotograffau, heb ei ganiatâd a heb guddio ei hunaniaeth yn briodol. Barnodd Llys Hawliau Dynol Ewrop, er nad oedd y ffilmio a’r recordio o reidrwydd yn ymyrryd â’i breifatrwydd, fod datgelu’r delweddau CCTV gan yr awdurdod lleol yn ymyrraeth ddifrifol ar ei hawl i fywyd preifat. Yn yr achos hwn, nid oedd digon o resymau i gyfiawnhau datgelu’r delweddau heb ganiatâd y dyn a heb guddio ei hunaniaeth. Yn unol â hyn, roedd datgelu’r deunydd yn ymyrraeth anghymesur â’i fywyd preifat.
(Crynodeb o achosion a gymerwyd o Human rights, human lives, Yr Adran Materion Cyfansoddiadol, 2006.)
Roedd menyw anabl, yr oedd arni angen gofal 24 awr, am dderbyn gofal adref gyda’i theulu, trwy becyn gofal helaeth. Fodd bynnag, roedd ei Hymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol (YGS) am ei gosod mewn gofal preswyl oherwydd cost uchel gofalu amdani gartref, ac oherwydd ansawdd gwell gofal yn y cartref gofal preswyl yn achos argyfwng. Barnodd yr Uchel Lys nad oedd yr YGS wedi ystyried yn briodol effaith hyn ar ei bywyd teuluol. Nid oeddent wedi cymryd i ystyriaeth ei hansawdd bywyd gwell adref, na’i dymuniadau ei hun i gael ei gosod yn ei chartref. Felly, dywedwyd wrth yr YGS i ail ystyried ei benderfyniad, gan gymryd i ystyriaeth ei hawl i gael parch am ei bywyd teuluol.
(Darparwyd y crynodeb achos hwn gan Sefydliad Hawliau Dynol Prydain)
Bu teulu’n byw’n sefydlog am tua 13 mlynedd ar safle a ddarparwyd gan y cyngor i bobl â ffordd grwydrol o fyw. Yna, fe’u trowyd allan o’u cartref gan y cyngor am achosi niwsans, gan ddefnyddio’r weithdrefn ddiannod ar gyfer troi pobl allan o’u cartrefi. Heriodd y teulu benderfyniad y cyngor ar y sail bod eu troi allan o’u cartref yn doriad anghyfiawnadwy ar eu hawl i fwynhau eu cartref. Barnodd Llys Hawliau Dynol Ewrop y torrwyd ar yr hawl i gael parch tuag at eu cartref. Canfu nad oedd y fframwaith cyfreithiol a oedd yn gymwys i fyw ar leiniau ar safleoedd sipsiwn yr awdurdod lleol yn rhoi digon o ddiogelwch gweithdrefnol i’w hawliau. Dylid rhoi ystyriaeth arbennig i’w hawliau a’u ffordd grwydrol o fyw oherwydd sefyllfa fregus sipsiwn mewn cymdeithas. Ni ellid cyfiawnhau unrhyw ymyrraeth a fyddai’n eu gadael yn ddigartref oni y bodolai seiliau digon cryBu teulu’n byw’n sefydlog am tua 13 mlynedd ar safle a ddarparwyd gan y cyngor i bobl â ffordd grwydrol o fyw. Yna, fe’u trowyd allan o’u cartref gan y cyngor am achosi niwsans, gan ddefnyddio’r weithdrefn ddiannod ar gyfer troi pobl allan o’u cartrefi. Heriodd y teulu benderfyniad y cyngor ar y sail bod eu troi allan o’u cartref yn doriad anghyfiawnadwy ar eu hawl i fwynhau eu cartref. Barnodd Llys Hawliau Dynol Ewrop y torrwyd ar yr hawl i gael parch tuag at eu cartref. Canfu nad oedd y fframwaith cyfreithiol a oedd yn gymwys i fyw ar leiniau ar safleoedd sipsiwn yr awdurdod lleol yn rhoi digon o ddiogelwch gweithdrefnol i’w hawliau. Dylid rhoi ystyriaeth arbennig i’w hawliau a’u ffordd grwydrol o fyw oherwydd sefyllfa fregus sipsiwn f o ran buddiant y cyhoedd. Canfu’r llys nad oedd y fath seiliau yn yr achos hwn.
(Crynodeb o achosion a gymerwyd o Human rights, human lives, Yr Adran Materion Cyfansoddiadol, 2006.)
Goodwin & I v Y Deyrnas Unedig (2002)
Archwiliodd yr achos hwn a gyflwynwyd gerbron Llys Hawliau Dynol Ewrop, faterion ar gyfer pobl drawsrywiol mewn perthynas â’u hawl i fywyd preifat (Erthygl 8) a’u hawl i fywyd teuluol (Erthygl 12). Yr olaf oherwydd eu hanallu i briodi rhywun o’r rhyw arall.
AB, R (ar gais) v Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder & Anor [2009] EWHC 2220
Enillodd menyw drawsrywiol a oedd yn garcharor yr hawl i’w chael ei hail-leoli i garchar ar gyfer menywod ar ôl i’w hachos yn erbyn yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder gael ei gyflwyno yn 2009. Roedd y carcharor, a geisiodd yn llwyddiannus am anhysbysrwydd yn y llys wedi sicrhau cydnabyddiaeth gyfreithiol o dan y Ddeddf Cydnabod Rhyw yn 2006. Golygai hyn y’i hystyrir yn fenyw i bob pwrpas o dan y gyfraith. Fodd bynnag, roedd y Gwasanaeth Carchardai wedi penderfynu mai i garchar ar gyfer dynion yr oedd yn rhaid iddi fynd iddo. Dadleuodd ei chyfreithwyr bod yr amgylchiadau o ran pennu llety iddi, a oedd yn ei rhwystro rhag gwisgo dillad menywod neu golur yn agored a chymdeithasu gyda merched, yn atal unrhyw bosibilrwydd iddi fwrw ymlaen â'i thriniaeth ailbennu rhyw, neu dderbyn llawdriniaeth ailbennu rhyw. Diddymodd y Dirprwy Farnwr David Elvin QC, yn eistedd yn yr Uchel Lys, Llundain, benderfyniad Mr Straw i gadw "AB" mewn carchar i ddynion gan ddweud ei fod yn torri ei hawl i fywyd preifat a theuluol yn unol â Chonfensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Gwrthododd honiadau ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol y byddai lleoli Ms A mewn carchar i fenywod yn gostus. Dywedodd, " O’i chaethiwo tu fewn ystâd y carchar i ddynion, mae’n dilyn na fydd yr hawlydd yn gallu bwrw ymlaen at y llawdriniaeth y mae’n dymuno gymaint i’w chael." Mae manylion llawn yr achos hwn yma.