Ymchwil ychwanegol

Yn ogystal â’r papur polisi ‘Beyond tolerance: Making sexual orientation a public matter’, mae’r Comisiwn wedi cynhyrchu chwech o adroddiadau ychwanegol ar amrywiaeth o faterion penodol.  Mae’r rhain ar gael i’w lawrlwytho isod:

Adroddiadau ymchwil

  1. Research report 35 - Sexual orientation explored: A study of identity, attraction, behaviour and attitudes in 2009 (Pdf)   [ fersiwn Word o’r ymchwil ]
    Gavin Ellison and Briony Gunstone (You Gov)
    Lluniwyd yr astudiaeth i wella ein gwybodaeth am natur cyfeiriadedd rhywiol, i gofnodi agweddau cyhoeddus sy’n newid ac i ymchwilio i effaith yr anfantais a ddioddefir gan bobl lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol (LHD).  Comisiynwyd YouGov i ddatblygu’r astudiaeth ym mis Rhagfyr 2008.
     
  2. Research report 34 - Sexual orientation research review 2008 (Pdf)     
    [ fersiwn Word o’r arolwg ]
    Martin Mitchell, Charlie Howarth, Mehul Kotecha and Chris Creeganet (NatCen)
    Mae’r arolwg hwn yn dod ag ymchwil gyfredol a thystiolaeth ar gyfeiriadedd rhywiol at ei gilydd er mwyn llywio datblygiad polisïau a strategaeth yn y dyfodol mewn perthynas â chyfeiriadedd rhywiol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. 
     
  3. Research report 37 - Estimating the size and composition of the lesbian, gay, and bisexual population in Britain (Pdf)
    Peter Aspinall (University of Kent)
    Mae’r ymchwil hwn yn archwilio dulliau o amcangyfrif maint y boblogaeth LHD ym Mhrydain gan nad oes amcangyfrif dibynadwy ar hyn o bryd.  Mae mesur cywir o’r boblogaeth hon yn hanfodol i hyrwyddo cydraddoldeb a herio gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol.

Crynodebau o adroddiadau ymchwil

  1. Research summary 38 - Homophobic hate crime and hate incidents
    [fersiwn Word]
    Sam Dick (Stonewall)
    Mae’r papur hwn yn cynnwys diffiniadau o droseddau casineb homoffobig, a digwyddiadau casineb homoffobig; bylchau, gwendidau a thueddiadau ffynonellau data; nifer yr achosion o droseddau casineb homoffobig yn erbyn menywod a dynion LHD a’u heffaith; y rhwystrau mae menywod a dynion LHD yn eu hwynebu wrth adrodd am droseddau casineb homoffobig; ac argymhellion a ffyrdd ymlaen.
     
  2. Research summary 39 - The experiences of lesbian, gay and bisexual staff and students in higher education
    [fersiwn Word]
    Gill Valentine and Nichola Wood (University of Leeds)
    Nod y papur hwn yw nodi beth a wyddom am y boblogaeth LHD yn y sector hwn; archwilio profiadau a chanlyniadau myfyrwyr a staff LHD mewn addysg uwch; a nodi sut y mae cydraddoldeb yn cael ei hyrwyddo ar hyn o bryd mewn sefydliadau addysg uwch a goblygiadau’r papur hwn ar gyfer datblygu’r gwaith.
     
  3. Research summary 40 - Moving forward: putting sexual orientation in the public domain
    [fersiwn Word]
    Sue Botcherby (EHRC) and Chris Creegan (NatCen)
    Mae’r papur hwn yn trafod gwneud data cyfeiriadedd rhywiol yn fater cyhoeddus.  Er ei fod yn cydnabod y tensiynau amlwg rhwng pobl sy’n ystyried cyfeiriadedd rhywiol yn fater preifat neu’n fater cyhoeddus, mae cyfeiriadedd rhywiol wedi bod yn fater cyhoeddus erioed, er bod hynny’n aml iawn er anfantais i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) eu hunain.

back to top