Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000: Cynllun Cyhoeddi

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus fabwysiadu Cynllun Cyhoeddi. Prif ofyniad pob Cynllun Cyhoeddi yw pennu'r Dosbarthiadau Gwybodaeth y mae'r awdurdod cyhoeddus wedi ymrwymo i'w cyhoeddi, nodi sut bydd y wybodaeth ar gael, ac a fydd ar gael ddim neu am dâl.
Yn unol ag adran 20 y Ddeddf, mae'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cymeradwyo Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol newydd a ddylai gael ei fabwysiadu gan bob awdurdod cyhoeddus ac a fydd mewn grym o 1 Ionawr 2009 ymlaen.
Mae'r Dosbarthiadau Gwybodaeth sydd wedi’u nodi yn y Cynlluniau hyn ac sydd wedi'u mabwysiadau fel a ganlyn:

  • Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud
  • Faint rydym yn ei wario a sut rydym yn ei wario
  • Ein blaenoriaethau a'n cynnydd ar y rhain
  • Sut rydym yn gwneud penderfyniadau
  • Ein polisïau a'n gweithdrefnau
  • Rhestri a Chofrestri
  • Y gwasanaethau rydym yn eu cynnig.

I weld y wybodaeth rydym yn ei chyhoeddi, gweler Cynllun Cyhoeddi’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
I gael gwybodaeth lawn am Gynllun Cyhoeddi Enghreifftiol 2009, ewch i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth - Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol.

 Cynllun Cyhoeddiad Deddf Rhyddid Gwybodaeth (WORD 78Kb)

Cynllun Cyhoeddiad Deddf Rhyddid Gwybodaeth (PDF 103Kb)

Am y wybodaeth lawn am y Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2009: Cynllun Cyhoeddi Gwybodaeth Enghreifftiol, ewch i Information Commissioners Office - Model Publication Scheme.
 

back to top