Preifatrwydd

Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i’r gwasanaethau a ddarperir gan wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Nid yw’r polisi yn berthnasol i wefannau allanol y gellir eu hagor trwy ddolenni ar y wefan hon. Dylech fod yn ymwybodol bob amser pan rydych chi’n symud i wefan arall a dylech ddarllen datganiad preifatrwydd unrhyw wefan sy’n casglu gwybodaeth bersonol.
Nid yw’r wefan hon yn storio nac yn casglu gwybodaeth bersonol yn awtomatig, dim ond cofnodi’ch cyfeiriad IP, ac mae gweinydd y wefan yn ei adnabod yn awtomatig.
Ni fyddwn yn trosglwyddo gwybodaeth bersonol rydych chi wedi’i rhoi i ni i unrhyw wefan arall. Bydd y system yn cofnodi eich cyfeiriad e-bost, a gwybodaeth arall y byddwch wedi’i rhoi i ni o’ch gwirfodd, er enghraifft, ar y ffurflen Cysylltu â ni, tanysgrifiadau i’r cylchlythyr / bwletin e-bost ac mewn fforymau ar-lein. Caiff unrhyw wybodaeth o’r fath ei storio yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 a chaiff ei thrin yn berchnogol a chyfrinachol. Gellir ei defnyddio i ymateb i’ch ymholiad neu i ddweud wrthych am ddiweddariadau i’r wefan hon. 

Diwygiadau i’r datganiad preifatrwydd

Os bydd y datganiad preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi fersiwn wedi’i diweddaru ar y dudalen hon. Trwy adolygu’r dudalen hon mae’n sicrhau eich bod yn ymwybodol o ba wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut mae’n cael ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu gyda phartïon eraill.

 

back to top