Creu Prydain Decach
Yn yr adran hon cewch wybodaeth am y cyllid sydd ar gael gan y Comisiwn i asiantaethau sy’n gweithio ar faterion cydraddoldeb a hawliau dynol, yn ogystal â therfynau amser, ffurflenni cais ac arweiniad.
Mae’r terfynau amser ar gyfer ceisiadau i Flaenoriaeth Un, Blaenoriaeth Dau a Blaenoriaeth Tri ar gau yn awr. Mae’r ymgeiswyr i’r Rhaglen Ariannu Strategol (Blaenoriaeth Un a Blaenoriaeth Dau) wedi derbyn gwybodaeth am ganlyniad eu ceisiadau cymal cyntaf erbyn hyn ac mae’r Comisiwn yn ystyried ceisiadau Blaenoriaeth Tri (cyngor cyfreithiol).
E-bostiwch unrhyw ymholiadau ar geisiadau ariannu i funding@equalityhumanrights.com a delir â nhw cyn gynted â phosibl.
Pennir ffurf a chynnwys rhaglen ariannu’r Comisiwn, yn cynnwys meysydd ariannu blaenoriaethol, gan gynllun strategol tair blynedd a chynllun cydraddoldeb y Comisiwn. Dros y cyfnod 2009-12 bydd y rhaglen ariannu’n cefnogi gwaith sy’n tanategu’n strategaeth tair blynedd. Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i’r meysydd canlynol yn arbennig:
• Blaenoriaeth Un – Darparu arweiniad, gwasanaethau cyngor ac eiriolaeth; datblygu isadeiledd ac adeiladu cynhwysedd
• Blaenoriaeth Dau – Cysylltiadau da
• Blaenoriaeth Tri – Cyngor cyfreithiol ar faterion cydraddoldeb a hawliau dynol
Rydym yn gobeithio ariannu amrywiaeth o brosiectau ledled Prydain a all gyfrannu tuag at amcanion strategol ar lefel cenedlaethol, yn ogystal â chyflawni effaith yn eu cymdogaeth. Wrth wneud penderfyniadau terfynol ar ba brosiectau i ariannu, bydd potensial y prosiect i gael effaith y tu hwnt i’w gymdogaeth agos (hynny yw wrth brofi safbwynt newydd ar broblem y gellir ei gymhwyso’n ehangach) yn rhan allweddol o’n meini prawf. Canfyddwch ragor ar ein meini prawf cymhwyster i’n rhaglen ariannu
• Y newyddion diweddaraf: Mae’r ymgeiswyr am flaenoriaeth 1 a 2 wedi derbyn gwybodaeth am ganlyniad eu ceisiadau cymal cyntaf
• Mae’r broses geisio am arian Blaenoriaeth 3 wedi cau’n awr.
• Canfyddwch ragor am y math o sefydliadau a gwaith yr ydym yn ariannu.
• Gwyliwch ein fideo am brosiectau sydd wedi elwa o’n harian yn barod.
• Rhowch eich adborth i ni ar ein rhaglen ariannu