Ein cynllun busnes

Mae’n dda gennym ddatgan cyhoeddiad ein cynllun busnes 2009/10, yn dilyn lansiad ein cynllun strategol tair blynedd.

Mae ein cynllun gwaith ar gyfer 2009/10 yn cynnwys prosiectau i gynorthwyo’r gwaith o weithredu’r Mesur Cydraddoldeb a hyrwyddo canfyddiadau’n Hymchwiliad Hawliau Dynol yng Nghymru. Gobeithiwn gael cydweithio â chi wrth i’n prosiectau ni fynd yn eu blaen.

Ein cynllun yw am weithio gydag eraill i gyflawni’n gweledigaeth o Gymru well a adeiladwyd ar egwyddorion tegwch a pharch, ein dyletswydd statudol i ddileu gwahaniaethu, ac anghenion y gymdeithas sydd ohoni.

Gallwch lawr lwytho copi o’r cynllun busnes isod

• Pennu agenda newydd – Adolygiad a Chynllun Cymru am 2009/10

Os hoffech archebu copi printiedig o’r cynllun busnes – Pennu agenda newydd  neu mae ei angen arnoch mewn fformat amgenach cysylltwch â’n llinell gymorth.

Ein blaenoriaethau a thargedau cyflawni allweddol ar gyfer 2009/10

Mae gennym 5 blaenoriaeth strategol:

  1. sicrhau a gweithredu fframwaith deddfwriaethol a rheoleiddiol effeithiol ar gyfer cydraddoldeb a hawliau dynol
  2. creu Cymru decach, lle mae gan bawb yr un cyfleoedd bywyd a mynediad i wasanaethau
  3. adeiladu cymdeithas heb ragfarn, hyrwyddo cysylltiadau da a meithrin diwylliant cydraddoldeb a hawliau dynol bywiog
  4. hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o hawliau a dyletswyddau a darparu cyngor ac arweiniad amserol a chywir i unigolion a chyflogwyr
  5. adeiladu sefydliad awdurdodol ac ymatebol.

Bydd yr holl waith a wnawn, gan gynnwys Targedau Cyflawni Cymru ar gyfer 2009/10, yn ymwneud ag un neu fwy o’r blaenoriaethau hyn. Mae’r Comisiwn yng Nghymru’n anelu at osod agenda newydd. Rydym wedi nodi 11 prosiect ar gyfer 2009/10 i’n helpu i gyflawni’r nod hwnnw.

Cysylltu â ni

Gallwch ddysgu mwy neu gysylltu â ni trwy ein gwefan: www.equalityhumanrights.com

neu trwy gysylltu â’n llinell gymorth:

Ffôn: 0845 604 8810
Ffôn testun: 0845 604 8820
Ffacs: 0845 604 8830
 

back to top