Fel rhan o unrhyw broses datblygu polisi effeithiol, mae’n bwysig i ystyried unrhyw risg posibl i’r sawl a effeithir gan nodau’r polisi neu o’i rhoi ar waith.
I sicrhau nad yw’n polisïau, arferion na’n swyddogaethau ein hunain (cyfeirir atynt fel ‘polisïau’ o hyn allan) yn effeithio er gwaeth neu’n gwahaniaethu yn erbyn unrhyw grŵp cydraddoldeb byddwn yn ymgymryd ag asesiadau effaith cydraddoldeb. Mae asesiad effaith cydraddoldeb yn ein helpu i ystyried unrhyw risg posibl ar wahanol grwpiau ond mae hefyd yn cynnig cyfle i ystyried sut hwyrach bydd y polisi yn helpu i ddatblygu cydraddoldeb ymhellach.
Mae asesiadau effaith cydraddoldeb yn rhan bwysig o ddull ehangach o wneud polisi, lle mae monitro a bod yn rhan o’r broses yn arwain i bolisïau sy’n deg i bawb ac yn seiliedig ar dystiolaeth ddiogel.
Dros y tair blynedd nesaf byddwn yn parhau i adolygu’n dulliau gan sicrhau bod cydraddoldeb yn ganolog i bopeth a wnawn a meithrin diwylliant o wneud polisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ddiogel.
Mae’r tair dyletswydd sector cyhoeddus cyfredol yn gofyn i awdurdodau cyhoeddus i edrych ar sut mae eu polisïau’n effeithio ar bobl o wahanol grwpiau a chymunedau ynglŷn â chydraddoldeb ar sail anabledd, rhyw a hil. Rydym yn ymrwymo i ymestyn ein hasesiadau effaith i gynnwys meysydd cydraddoldeb arall ein cylch gwaith a hawliau dynol.
Mae’r Comisiwn yn ymgymryd ag asesiadau effaith cydraddoldeb ar bolisïau newydd ac arfaethedig, ar bolisïau sydd wedi’u newid a bydd yn sicrhau mai dyna’r drefn ar yr holl bolisïau bob tair blynedd. Bydd adroddiadau crynodeb o’n hasesiadau effaith cydraddoldeb ar gael yma cyn bo hir.
Er mwyn helpu’n staff i gyflawni asesiadau effaith cydraddoldeb mewn ffordd drefnus rydym wedi datblygu pecyn cymorth (yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd) y gellir ei lawr lwytho mewn ffurf templed. Ar hyn o bryd mae’r templed hwn yn cael ei ailwampio, a bydd fersiwn mwy diweddar ar gael cyn bo hir.
Nodwch os gwelwch yn dda nad yw’n briodol i sefydliadau arall i lawr lwytho’r pecyn cymorth hwn a’i fabwysiadu’n eiddo iddynt hwy, gan y datblygwyd ef i’w ddefnyddio’n benodol o fewn y Comisiwn. Mae’n bwysig bod sefydliadau’n datblygu pecyn cymorth asesiadau effaith cydraddoldeb eu hunain i adlewyrchu natur fanwl gywir eu busnesau eu hunain yn llwyr.
Er mwyn cyflawni hynny, mae arweiniad ar gael o dan y ddyletswydd gydraddoldeb hiliol, dyletswydd gydraddoldeb ar sail anabledd ac o fewn cod ymarfer y ddyletswydd gydraddoldeb ar sail rhyw. Yn ychwanegol, bydd yr arweiniad diweddaraf a ddatblygwyd gan y Comisiwn, ac sy’n cwmpasu’r holl feysydd cydraddoldeb ar gael cyn bo hir.
Pan fyddwn yn ymgymryd ag asesiadau effaith cydraddoldeb ar ein polisïau, byddwn yn cymryd y camau allweddol canlynol:
Cam 1: Sgrinio’r polisi ar ei berthnasedd i gydraddoldeb
Os fydd angen asesiad effaith cydraddoldeb llawn byddwn yn parhau gyda’r broses ganlynol.
Cam 2:
a. Nodi amcanion
Nodi amcanion y polisi a phwy fydd yn elwa ohono.
b. Casglu gwybodaeth a hwyluso ymrwymiad
Ar gyfer casglu data a thystiolaeth, ceisiwch ganfod pa wybodaeth a gasglwyd a pha wybodaeth bellach sydd dal ei angen. Sylfaen ein categorïau monitro yw cyfrifiad 2001.
Nodwch pa ymgynghori ac ymrwymo mewnol ac allanol a wnaed a beth fydd yn cael ei wneud o ganlyniad i’r ymarfer hwn.
c. Asesu effaith
Aseswch a dadansoddwch y polisi yn nhermau’r effaith cadarnhaol neu negyddol y bydd hwyrach yn ei gael a’i botensial i achosi gwahaniaethu anghyfreithlon uniongyrchol neu anuniongyrchol, neu ba un ai a gollwyd unrhyw gyfle i hyrwyddo cydraddoldeb. Ystyriwch y ddyletswydd i hyrwyddo cyfle cyfartal a chysylltiadau da.
Os nodir effaith er gwaeth, ystyriwch ddulliau amgenach i leihau, lliniaru neu ddiddymu’r effaith er gwaeth a hyrwyddo cydraddoldeb mewn modd mwy cadarnhaol. Ystyriwch y rhwymedigaethau sydd gan ein contractwyr allanol wrth weithio gyda ni yn ogystal ag unrhyw sefydliad rydym yn gweithio gyda hwy.
d. Cynllun gweithredu
Cadarnhewch ba weithredu ymarferol sydd eu hangen i leihau, lliniaru neu ddiddymu unrhyw effaith negyddol neu er gwaeth a pha gamau a gymerwn i helpu hyrwyddo cydraddoldeb. Datblygwch gynllun gweithredu’n deillio o’r camau uchod.
Cyflawnwch archwiliad ansawdd asesiad effaith cydraddoldeb i ddarparu trywydd archwilio i’r ymarfer asesu effaith cydraddoldeb.
e. Monitro a chyhoeddi
Gwnewch drefniadau i fonitro ac adolygu’r polisi.
Cyhoeddwch ganlyniadau’n hasesiadau effaith, gan gynnwys canlyniadau ymgynghori a monitro.
• Ein data monitro
• Data cyfrifiadau
• Arolygon – boddhad rhanddeiliaid, staff
• Canlyniadau gweithgareddau ymrwymo ac ymgynghori ffurfiol
• Ymchwil newydd a chyfredol, mewnol ac allanol fel ei gilydd
• Rhwydweithiau staff mewnol ac undebau
• Gwybodaeth gan grwpiau a sefydliadau sy’n gweithio’n uniongyrchol â grwpiau arbennig y bydd y polisi hwyrach yn effeithio arnynt
• Rheoliad perfformiad a data adroddiadau
• Gwybodaeth gwynion
• Galwadau am dystiolaeth (er enghraifft, o’n Hymholiadau Cyfreithiol)
Dros y tair blynedd nesaf rydym yn ymroddi i gynyddu’n sylfaen tystiolaeth ein hunain, yn ogystal â pharhau i godi arfer da oddi ar sefydliadau allanol. Byddwn yn nodi bylchau yn ein sylfaen monitro ac yn edrych i ymestyn y data rydym yn ei gasglu i fynd i’r afael â’r bylchau hynny.
Mae ymglymu staff a rhanddeiliaid perthnasol yn gam hanfodol yn ein proses asesu effaith ac mae’n golygu mwy na hysbysu pobl yn unig o’r hyn fydd yn digwydd. Yn hytrach mae’n helpu ni i bennu’n llawn pa effaith posibl, hwyrach, a fydd gan y polisi ac mae’n golygu defnyddio’r effeithiau hynny i lywio’r ffordd ymlaen.
Cyn gwneud unrhyw ymarfer ymglymu byddwn yn nodi pa ymglymu ac ymgynghori mewnol ac allanol sydd wedi’i wneud yn barod.
Ffynonellau y byddwn yn tynnu arnynt yn cynnwys:
• Canlyniadau o’r cynllun strategol, cynllun cydraddoldeb, digwyddiadau ymglymu ac ymgynghori ynglŷn â grantiau
• Ymgynghori â’r undebau a rhwydweithiau staff
• Cyfarfodydd gydag arbenigwyr polisi mewnol
• Cysylltu â phobl anabl gan gynnwys grŵp arbenigedd allanol, a’r grŵp staff gydag anabledd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ar ein hasesiadau effaith cysylltwch â:
Head of Internal Equalities
2nd Floor
Equality and Human Rights Commission
Arndale House
The Arndale Centre
Manchester M4 3AQ
Ffôn : 0161 829 8100
Ffôn Testun: 08456 046 620
Ffacs: 01925 884 275
Ebost: equalityscheme@equalityhumanrights.com