Ein Hasesiadau Effaith Cydraddoldeb

Fel rhan o unrhyw broses datblygu polisi effeithiol, mae’n bwysig i ystyried unrhyw risg posibl i’r sawl a effeithir gan nodau’r polisi neu o’i rhoi ar waith.

I sicrhau nad yw’n polisïau, arferion na’n swyddogaethau ein hunain (cyfeirir atynt fel ‘polisïau’ o hyn allan) yn effeithio er gwaeth neu’n gwahaniaethu yn erbyn unrhyw grŵp cydraddoldeb byddwn yn ymgymryd ag asesiadau effaith cydraddoldeb. Mae asesiad effaith cydraddoldeb yn ein helpu i ystyried unrhyw risg posibl ar wahanol grwpiau ond mae hefyd yn cynnig cyfle i ystyried sut hwyrach bydd y polisi yn helpu i ddatblygu cydraddoldeb ymhellach.

Mae asesiadau effaith cydraddoldeb yn rhan bwysig o ddull ehangach o wneud polisi, lle mae monitro a bod yn rhan o’r broses yn arwain i bolisïau sy’n deg i bawb ac yn seiliedig ar dystiolaeth ddiogel.

Dros y tair blynedd nesaf byddwn yn parhau i adolygu’n dulliau gan sicrhau bod cydraddoldeb yn ganolog i bopeth a wnawn a meithrin diwylliant o wneud polisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ddiogel.


Beth rydym yn asesu


Mae’r tair dyletswydd sector cyhoeddus cyfredol yn gofyn i awdurdodau cyhoeddus i edrych ar sut mae eu polisïau’n effeithio ar bobl o wahanol grwpiau a chymunedau ynglŷn â chydraddoldeb ar sail anabledd, rhyw a hil. Rydym yn ymrwymo i ymestyn ein hasesiadau effaith i gynnwys meysydd cydraddoldeb arall ein cylch gwaith a hawliau dynol.

Mae’r Comisiwn yn ymgymryd ag asesiadau effaith cydraddoldeb ar bolisïau newydd ac arfaethedig, ar bolisïau sydd wedi’u newid a bydd yn sicrhau mai dyna’r drefn ar yr holl bolisïau bob tair blynedd. Bydd adroddiadau crynodeb o’n hasesiadau effaith cydraddoldeb ar gael yma cyn bo hir.


Sut rydym yn cyflawni asesiadau effaith cydraddoldeb


Er mwyn helpu’n staff i gyflawni asesiadau effaith cydraddoldeb mewn ffordd drefnus rydym wedi datblygu pecyn cymorth (yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd) y gellir ei lawr lwytho mewn ffurf templed. Ar hyn o bryd mae’r templed hwn yn cael ei ailwampio, a bydd fersiwn mwy diweddar ar gael cyn bo hir.

Nodwch os gwelwch yn dda nad yw’n briodol i sefydliadau arall i lawr lwytho’r pecyn cymorth hwn a’i fabwysiadu’n eiddo iddynt hwy, gan y datblygwyd ef i’w ddefnyddio’n benodol o fewn y Comisiwn. Mae’n bwysig bod sefydliadau’n datblygu pecyn cymorth asesiadau effaith cydraddoldeb eu hunain i adlewyrchu natur fanwl gywir eu busnesau eu hunain yn llwyr.

Er mwyn cyflawni hynny, mae arweiniad ar gael o dan y ddyletswydd gydraddoldeb hiliol, dyletswydd gydraddoldeb ar sail anabledd ac o fewn cod ymarfer y ddyletswydd gydraddoldeb ar sail rhyw. Yn ychwanegol, bydd yr arweiniad diweddaraf a ddatblygwyd gan y Comisiwn, ac sy’n cwmpasu’r holl feysydd cydraddoldeb ar gael cyn bo hir.

Pan fyddwn yn ymgymryd ag asesiadau effaith cydraddoldeb ar ein polisïau, byddwn yn cymryd y camau allweddol canlynol:

Cam 1: Sgrinio’r polisi ar ei berthnasedd i gydraddoldeb

Os fydd angen asesiad effaith cydraddoldeb llawn byddwn yn parhau gyda’r broses ganlynol.

Cam 2:

a.   Nodi amcanion

Nodi amcanion y polisi a phwy fydd yn elwa ohono.

b.   Casglu gwybodaeth a hwyluso ymrwymiad

Ar gyfer casglu data a thystiolaeth, ceisiwch ganfod pa wybodaeth a gasglwyd a pha wybodaeth bellach sydd dal ei angen. Sylfaen ein categorïau monitro yw cyfrifiad 2001.

Nodwch pa ymgynghori ac ymrwymo mewnol ac allanol a wnaed a beth fydd yn cael ei wneud o ganlyniad i’r ymarfer hwn.

c.    Asesu effaith

Aseswch a dadansoddwch y polisi yn nhermau’r effaith cadarnhaol neu negyddol y bydd hwyrach yn ei gael a’i botensial i achosi gwahaniaethu anghyfreithlon uniongyrchol neu anuniongyrchol, neu ba un ai a gollwyd unrhyw gyfle i hyrwyddo cydraddoldeb. Ystyriwch y ddyletswydd i hyrwyddo cyfle cyfartal a chysylltiadau da.

Os nodir effaith er gwaeth, ystyriwch ddulliau amgenach i leihau, lliniaru neu ddiddymu’r effaith er gwaeth a hyrwyddo cydraddoldeb mewn modd mwy cadarnhaol. Ystyriwch y rhwymedigaethau sydd gan ein contractwyr allanol wrth weithio gyda ni yn ogystal ag unrhyw sefydliad rydym yn gweithio gyda hwy.

d.   Cynllun gweithredu

Cadarnhewch ba weithredu ymarferol sydd eu hangen i leihau, lliniaru neu ddiddymu  unrhyw effaith negyddol neu er gwaeth a pha gamau a gymerwn i helpu hyrwyddo cydraddoldeb. Datblygwch gynllun gweithredu’n deillio o’r camau uchod.

Cyflawnwch archwiliad ansawdd  asesiad effaith cydraddoldeb i ddarparu trywydd archwilio i’r ymarfer asesu effaith cydraddoldeb.

e.   Monitro a chyhoeddi

Gwnewch drefniadau i fonitro ac adolygu’r polisi.

Cyhoeddwch ganlyniadau’n hasesiadau effaith, gan gynnwys canlyniadau ymgynghori a monitro.

  Tystiolaeth rydym yn defnyddio fel rhan o’n proses asesu effaith


• Ein data monitro
• Data cyfrifiadau
• Arolygon – boddhad  rhanddeiliaid, staff
• Canlyniadau gweithgareddau ymrwymo ac ymgynghori ffurfiol
• Ymchwil newydd a chyfredol, mewnol ac allanol fel ei gilydd
• Rhwydweithiau staff mewnol ac undebau
• Gwybodaeth gan grwpiau a sefydliadau sy’n gweithio’n uniongyrchol â grwpiau arbennig y bydd y polisi hwyrach yn effeithio arnynt
• Rheoliad perfformiad a data adroddiadau
• Gwybodaeth gwynion
• Galwadau am dystiolaeth (er enghraifft, o’n Hymholiadau Cyfreithiol)

Dros y tair blynedd nesaf rydym yn ymroddi i gynyddu’n sylfaen tystiolaeth ein hunain, yn ogystal â pharhau i godi arfer da oddi ar sefydliadau allanol. Byddwn yn nodi bylchau yn ein sylfaen monitro ac yn edrych i ymestyn y data rydym yn ei gasglu i fynd i’r afael â’r bylchau hynny.

Ymglymu ac ymgynghori fel rhan o’r broses asesu effaith

Mae ymglymu staff a rhanddeiliaid perthnasol yn gam hanfodol yn ein proses asesu effaith ac mae’n golygu mwy na hysbysu pobl yn unig o’r hyn fydd yn digwydd. Yn hytrach mae’n helpu ni i bennu’n llawn pa effaith posibl, hwyrach, a fydd gan y polisi ac mae’n golygu defnyddio’r effeithiau hynny i lywio’r ffordd ymlaen.

Cyn gwneud unrhyw ymarfer ymglymu byddwn yn nodi pa ymglymu ac ymgynghori mewnol ac allanol sydd wedi’i wneud yn barod.

Ffynonellau y byddwn yn tynnu arnynt yn cynnwys:

• Canlyniadau o’r cynllun strategol, cynllun cydraddoldeb, digwyddiadau ymglymu ac ymgynghori ynglŷn â grantiau
• Ymgynghori â’r undebau a rhwydweithiau staff
• Cyfarfodydd gydag arbenigwyr polisi mewnol
• Cysylltu â phobl anabl gan gynnwys grŵp arbenigedd allanol, a’r grŵp staff gydag anabledd.


Cysylltu â ni


Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ar ein hasesiadau effaith cysylltwch â:

Head of Internal Equalities
2nd Floor
Equality and Human Rights Commission
Arndale House
The Arndale Centre
Manchester M4 3AQ
Ffôn : 0161 829 8100
Ffôn Testun:  08456 046 620
Ffacs:  01925 884 275
Ebost:  equalityscheme@equalityhumanrights.com
 

back to top