Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb

Mae’r Llywodraeth wedi comisiynu Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb newydd (EASS) i ddisodli Llinell Gymorth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Daeth Llinell Gymorth y Comisiwn i ben ar 24 Medi ac ni ellir mwyach gysylltu â hi ar y ffôn, drwy lythyr nag mewn e-bost. Bydd EASS yn dechrau ei wasanaeth am 9am, 1 Hydref 2012.

Penderfynodd y Llywodraeth i beidio ag ariannu llinell gymorth y Comisiwn ar ôl iddynt gynnal adolygiad i ddarpariaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth y Comisiwn. Mae’r adolygiad ar gael yn:

Swyddfa Gydraddoldeb y Llywodraeth – Gwybodaeth, cyngor a chymorth ar faterion cydraddoldeb a hawliau dynol.

Yn dilyn proses gaffael o dan reolau’r Undeb Ewropeaidd, mae’r cytundeb i ddarparu EASS wedi’i  dyfarnu i Sitel. Bydd Sitel yn gweithio gyda Disability Rights UK, y Ffederasiwn Canolfannau Cyfreithiol, Voiceability, Sefydliad Hawliau Dynol Prydain a Chymdeithas Frenhinol Cynorthwyo Pobl Fyddar.

Anelir y gwasanaeth newydd at unigolion sydd angen fwy o gyngor a chymorth arbenigol ynglŷn â gwahaniaethu na all asiantaethau cynghori a sefydliadau lleol eraill ei gynnig. Bydd yn rhoi cyngor unswydd i unigolion ar draws Prydain Fawr ar faterion gwahaniaethu. Bydd yn egluro hawliau ac atebion cyfreithiol o fewn deddfwriaeth wahaniaethu, ar draws y tair gwlad. Bydd yn egluro’r opsiynau i ddatrys anghytundebau’n anffurfiol a helpu pobl i’w dilyn. Bydd yn cyfeirio pobl na all neu nad ydynt am droedio’r ffordd hon i gymodi neu i ddefnyddio gwasanaethau canolwr. Bydd yn helpu pobl sydd angen neu eisiau ceisio am ateb cyfreithiol drwy helpu i bennu cymhwysedd i gael cymorth cyfreithiol, ac os nad ydynt yn bodloni’r meini prawf, i ganfod gwasanaeth cyfreithiol hygyrch neu i baratoi a chyflwyno eu  hawliad eu hunain. Bydd yr EASS yn gweithio ar y cyd â sefydliadau sy’n cyfeirio unigolion ato, a chyda caniatâd yr unigolion ,bydd yn gadael i’r sefydliadau hynny wybod am ganlyniadau’r achosion a gyfeiriwyd ganddynt. Bydd y gwasanaeth newydd yn gweithio’n agos gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ac yn cyfeirio achosion prawf posibl a rhannu gwybodaeth i lywio gwaith cyffredinol y Comisiwn ar gydraddoldeb.

Cysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)

Y rhifau cyswllt i’r gwasanaeth newydd yw:

Ffôn: 0808 800 0082

Ffôn Testun: 0808 800 0084

Oriau agor:

09:00 i 20:00 Dydd Llun i ddydd Gwener

10:00 i 14:00 Dydd Sadwrn

Ar gau ddydd Sul a Gwyliau’r Banc

Drwy’r post: FREEPOST Equality Advisory Support Service FPN4431
 

back to top