Dyddiad cau: 12pm dydd Iau 12 Ebrill 2012
Cynhelir cyfweliadau dydd Gwener 25 Mai 2012
Mae pwyllgor Cymru, a gadeirir gan Ann Beynon, Gomisiynydd Cymru, yn darparu persbectifau deallus, diduedd a chytbwys ar amrediad o faterion sensitif a chymhleth. Mae angen i aelodau’r Pwyllgor ddeall y cyd-destun cymdeithasol, economaidd a chyfreithiol yng Nghymru a bod yn gallu gweithredu hwn er mwyn darparu gwybodaeth ar gyfer blaenoriaethau’r EHRC yng Nghymru. Maent yn gyfrifol am:
Mae’r Pwyllgor yn sicrhau bod yr EHRC yn cyflawni ei swyddogaethau mewn modd sy’n briodol i Gymru ac y gall Bwrdd yr EHRC ddysgu gan brofiad Cymru o gydraddoldeb a hawliau dynol. Mae aelodau’r Pwyllgor yn cefnogi Comisiynydd Cymru wrth gyflawni’r swyddogaethau hynny a ddirprwyir i Bwyllgor Cymru.
Mae bod yn Aelod Pwyllgor yn cynnig cyfle unigryw ichi i ddylanwadu ar yr agenda hawliau dynol yng Nghymru. Mae’r rôl hon yn ymwneud â gweithio’n greadigol i daclo gwahaniaethu a hyrwyddo hawliau dynol yng Nghymru. Ar yr un pryd, byddwch yn cymryd rhan bwysig o ran meithrin llais arbennig i Gymru yn un o sefydliadau craffaf Prydain.
Yr hyn a ddywedodd Aelodau Pwyllgor am y rôl:
“Mae bod yn Aelod Pwyllgor yn rhoi cyfle i wneud cysylltiadau newydd yn ogystal â datblygu eich sgiliau personol a chymryd rhan mewn trafodaethau sydd yn ysgogi meddwl ynglŷn â materion cydraddoldeb.”
Yn ogystal â rhoi cymorth i Gomisiynydd Cymru, mae’r Pwyllgor yn cadw golwg ar ddatblygiad a chyflawniad blaenoriaethau strategol yng Nghymru, yn cynghori Llywodraeth Cymru ac yn cynrychioli’r CCHD yng Nghymru drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid a chymunedau.
Er mwyn inni eich ystyried, bydd rhaid ichi ddangos dealltwriaeth o’r agenda cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru a Phrydain. Rydym yn edrych am brofiad o ran datblygu polisi mewn amgylcheddau gwleidyddol a chyfreithiol cymhleth yn ogystal â dealltwriaeth o gyd-destun datganoli o ran y gyfraith, diwylliant, economi a chymdeithas ynghyd ag ymrwymiad i drefn lywodraethol dda.
Nodwch, os gwelwch yn dda, y bydd y penodiad am gyfnod rhwng dwy a phum mlynedd o hyd ac yn destun i asesiad perfformiad blynyddol ar ôl dwy flynedd.
12 diwrnod y flwyddyn - £250 y diwrnod + treuliau
Rydym yn awyddus i benodi ar gyfer un swydd wag yn ddi-oed ac i nodi ymgeiswyr ar gyfer swyddi gwag eraill a fydd yn codi yn ystod 2012.
Os oes gennych unrhyw ofnion penodol i’ch galluogi i gyflawni’r broses gais a wnewch chi gysylltu â’r Tîm Recriwtio os gwelwch yn dda ar 0161 829 8344 (ffôn testun 0161 829 8341). Gallwn ddarparu manylion swyddi gwag mewn amryw o fformatau hygyrch.