Rydym yn ymrwymedig i ddatblygiad gyrfa a chyflogaeth pobl anabl. Os dywedwch wrthym fod gennych anabledd gallwn ni wneud addasiad rhesymol yn y cyfweliad, lle fyddwch yn gweithio ac i’ch trefniadau gwaith.
Mae’r Comisiwn yn gweithredu Cynllun Cyfweliad Gwarantedig (CCG) i unrhyw un ag anabledd fel ei ddiffinnir yn y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (fel ei diwygiwyd).
Os fydd ymgeisydd ag anabledd yn hawlio cyfweliad gwarantedig, yna nid oes ond angen iddynt ateb y meini prawf cymhwysol hanfodol am y swydd y maen nhw wedi ymgeisio amdano yng nghamau profi dethol a chais y broses recriwtio. Gwahoddir nhw wedyn yn awtomatig i’r cam cyfweliad terfynol.
Os ydych yn dymuno ymgeisio’n ôl y CCG, cwblhewch os gwelwch yn dda y datganiad yn adran 1 o’r ffurflen gais.
Os nad ydych yn dymuno ymgeisio’n ôl y CCG, ond hoffech i ni wneud addasiadau rhesymol yn y cyfweliad, yna rhowch fanylion i ni hefyd os gwelwch yn dda.
Mae’n wasanaeth Minicom yn galluogi aelodau’r cyhoedd sydd â namau clywed a llafar i gysylltu â ni.
Ein rhif Minicom yw 0161 829 8341
Hefyd gallwn ni ddarparu manylion swyddi gwag mewn amrywiaeth o fformatau hygyrch. Os fyddwch yn dymuno defnyddio’r gwasanaeth hwn ffoniwch neu e-bostiwch :
Rhif Minicom : 0161 829 8341
Ffôn: 0161 829 8340
e-bost: recruitment@equalityhumanrights.com
Gallwch hefyd ddefnyddio unrhyw un o’r cysylltau uchod os cewch unrhyw anawsterau wrth gwblhau’r broses gais.