Cyn i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gael ei sefydlu, roedd tri chomisiwn cydraddoldeb: y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol (CRE), y Comisiwn Hawliau Anabledd (DRC) a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal (EOC). Cafodd y rhain eu huno yn un Comisiwn ym mis Hydref 2007.
Mae’r cyfrifon a’r adroddiadau blynyddol terfynol ar gyfer y comisiynau hyn ar gael yma.
Mae ein gwefan yn cynnal gwybodaeth ar yr holl faterion a gwmpaswyd gynt gan y cyn comisiynau etifeddol. Yn y wefan hon, rydym wedi cynnwys llawer o ddeunydd y safleoedd hynny. Fodd bynnag, o ganlyniad i faint ac oed y deunydd, ni throsglwyddwyd y cyfan. Bu copïau sydd wedi’u rhewi o’r cyn gwefannau gennym ar gael yn gyhoeddus am ddwy flynedd gyntaf y Comisiwn ond nid ydynt mwyach ar gael i’r cyhoedd.
Os ydych am fynediad i adnoddau y gwyddoch yr arferai fod ar un o’r gwefannau etifeddol, cysylltwch â ni ac fe’i ceisiwn ichi, os yn bosibl.
Gorau bo’r manylion am yr eitem, gorau bo’r cyfle i’w ganfod, er enghraifft: pa gyn Comisiwn, teitl y dudalen neu’r cyhoeddiad, y pwnc; y dyddiad tebygol; neu ddisgrifiad bras o’r cynnwys (rhywbeth fel: cynlluniau gwersi ar gyfer athrawon ar daclo hiliaeth y gellid eu lawr lwytho o wefan 2006 y CRE). Os oes cofnod o url (cyfeiriad tudalen gwefan) gennych, wedi’i gadw efallai yn eich ffeil hoff eitemau, byddai hwnnw’n ddefnyddiol dros ben i ganfod y darn gwybodaeth.
Mae rhywfaint o gyhoeddiadau a deunyddiau argraffedig a gynhyrchwyd gan y cyn Comisiynau yn dal ar gael, ynghyd ag eraill nad ydynt mewn fformatau electroneg. Cysylltwch â ni os hoffech gael adnodd a oedd yn arfer bod ar gael gan y cyn Comisiynau. Fel gydag archifau gwefan, po gorau’r manylion, po hawsaf fydd canfod neu sefydlu a yw’r adnodd yn dal gennym.
Mae’r gwefannau a ganlyn a sefydlwyd gan y cyn Comisiynau yn dal yn bod i’r cyhoedd oherwydd iddynt gael eu cynnal yn allanol i’r prif wefannau neu y’u datblygwyd ar y cyd â phartneriaid sydd wedi’u cymryd drosodd. Sylwer na fydd y gwefannau hyn ar gael am gyfnod amhenodol.
DRC - Celebrating the Journey (7 mlynedd y Comisiwn Hawliau Anabledd)
EOC - Know your Place (gyrfaoedd nad yw’n draddodiadol i fenywod a merched)
CRE - Catalyst Magazine (Yn dadlau am hil, hunaniaeth, dinasyddiaeth a diwylliant)