Blaenoriaeth strategol 2
- Blaenoriaeth strategol 2: creu Prydain decach, gyda chyfleoedd bywyd cyfartal a mynediad at wasanaethau i bawb Mae ein dadansoddiad o’r newidiadau o ran anfantais a gwahaniaethu ym Mhrydain, y farchnad lafur gyfnewidiol, darparu gwasanaethau cyhoeddus ac effaith uniongyrchol y dirywiad economaidd, yn pwyntio tuag at yr angen am gamau gweithredol cydunol ar ran y Comisiwn i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau strwythurol sy’n cael effaith ar y grwpiau yn ein mandad.
- Byddwn yn mynd i’r afael ag achosion strwythurol o wahaniaethu – er enghraifft effaith gwahanu galwedigaethol ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau – yn ogystal â rôl ehangach anfantais economaidd-gymdeithasol a thlodi incwm ar waethygu haniaethu ac anghydraddoldeb.
- Bydd gwaith y Comisiwn yn Lloegr yn cyfrannu at ddarparu Cytundeb Gwasanaeth Cyhoeddus (PSA) 15 ar Gydraddoldeb ar y cyd â’r Llywodraeth Ganolog, Cyrff Cyhoeddus Anadrannol a phartneriaid eraill mewn llywodraeth leol a’r Sectorau Gwirfoddol a Chymunedol. Yn Yr Alban byddwn yn gweithio o fewn fframwaith Canlyniadau Perfformiad Cenedlaethol, ac yng Nghymru bydd ein blaenoriaethau’n ystyried rhai Cynulliad Cymru.
- Byddwn ni’n defnyddio’r ddeddfwriaeth a’r pwerau sydd gennym eisoes -megis y dyletswyddau cyhoeddus a Deddf Hawliau Dynol – er mwyn creu newid cymdeithasol. Bydd y Comisiwn yn archwilio’r diwylliant o barch tuag at hawliau dynol o fewn gwasanaethau cyhoeddus Prydain.
- Bydd hynny hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn asesu effaith ffurfiau penodol ar anfantais gan ddefnyddio’r Fframwaith Mesur Cydraddoldeb, gan dderbyn efallai y bydd rhai newidiadau penodol yn anweledig ac felly heb eu deall yn dda o fewn yr ystadegau cydraddoldeb swyddogol.
back to top
-
Print
-
Share
-
RSS
- There are no feeds for this page.