Blaenoriaeth Strategol 3: adeiladu cymdeithas heb ragfarn, hyrwyddo cysylltiadau da a meithrin diwylliant cydraddoldeb a hawliau dynol bywiog.
- Mae’r dystiolaeth yn awgrymu y caiff gwahaniaethu ac anfantais strwythurol eu gwaethygu gan brosesau cynnil sy’n cynnwys stereoteipio negyddol, gelyniaeth a chasineb tuag at grwpiau penodol, ac agweddau rhagfarnllyd sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn ac sydd ynddynt eu hunain yn sbarduno ymddygiadau niweidiol. Ein huchelgais yn yr hirdymor yw newid agweddau cenhedlaeth. Byddwn yn gweithio tuag at hyn drwy ymchwil, cynghreirio gyda’r llywodraeth a Chyrff Anllywodraethol (NGOs), ac ystod o weithgareddau a ymgymerir â nhw y tu hwnt i’r Comisiwn. Byddwn hefyd yn adeiladu ar ein cysylltiadau gyda sefydliadau diwylliannol i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol.
- Ceir tystiolaeth o lefel uchel o wahanu a diffyg dealltwriaeth, goddefgarwch a pharch a rennir tuag at ddiwylliannau, credoau a ffyrdd o fyw amrywiol, yn ogystal ag ymdeimlad o analluogrwydd ac ymyleiddio mewn rhai cymunedau.
- Bydd y Comisiwn yn ceisio lleihau’r lefelau cyffredinol o ragfarn yn y gymdeithas, gan adeiladau ar gynnydd mewn rhai meysydd. Er enghraifft, mae’n ymddangos fod hiliaeth yn llai cyffredin ymhlith y cenedlaethau iau ym Mhrydain, er nad yw’n absennol, o bell ffordd. Ceir hefyd heriau enbyd megis mynd i’r afael â chasineb a thrais a anelir at bobl anabl, y cymunedau lesbiaid, hoyw a deurywiol, a phobl drawsryweddol.
- Ceir tystiolaeth gadarn y cynyddir gwahaniaethu gan ragfarn, gwahanu a diffyg ymwybyddiaeth. Oni bai ein bod yn mynd i’r afael â’r achosion sydd wrth wraidd gwahaniaethu anghyfreithlon, bydd y Comisiwn yn gweld bod y galw am ymyriadau ôl-weithredol i ‘wneud iawn am gamweddau’r gorffennol’ yn anghynaladwy. Mae ein hymagwedd strategol yn ymwneud â mynd i’r afael ag achosion ac effeithiau gwahaniaethu.
- Mae gan y Comisiwn ddyletswydd statudol i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn mynd i’r afael yn ddigonol â’u dyletswyddau o ran cysylltiadau da, ac eto ceir tipyn o ddryswch ac ansicrwydd ar hyn o bryd ynglŷn â’r fframwaith deddfwriaethol ar gydlyniad cymunedol.
- Yn aml bydd y Comisiwn yn gweithio trwy sefydliadau cyfryngu megis y cyrff cyhoeddus strategol sy’n gosod polisïau ar gyfer ysgolion a phrifysgolion. Efallai bydd gan y cyrff hyn fwy o fewnwelediad i rwystrau a chyfleoedd sylfaenol. Byddwn hefyd yn datblygu sianeli uniongyrchol y gallwn gyfathrebu â’r cyhoedd trwyddynt.