Blaenoriaeth Strategol 5

Blaenoriaeth Strategol 5: adeiladu sefydliad awdurdodol ac ymatebol

  • Bydd cyflawni ein pedair blaenoriaeth strategol gyntaf yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r comisiwn gyflawni cylch gorchwyl cymhleth, wrth ymdopi ag ystod o heriau economaidd a gwleidyddol
  • Byddwn yn parhau i adeiladu ein fframwaith mesur a seiliau tystiolaeth awdurdodol.
  • Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn pobl wrth ddatblygu ymagweddau effeithiol at waith a seilir ar brosiectau. Mae’r Comisiwn yn parhau i adeiladu canolfan gorfforaethol gynnil ac effeithlon, wrth gryfhau ei allu o ran rheolaeth ariannol.
  • Bydd gan sefydliad sydd wedi canolbwyntio’n strategol ac yn alluog yn broffesiynol hefyd yr hyder i weithio gyda’r rhan -ddeiliaid hynny sydd wedi ymrwymo i’r agenda hawliau dynol a chydraddoldeb ac i arwain hefyd ynglŷn â chreu newid cymdeithasol parhaol lle bo angen.
  • Bydd y Comisiwn yn cadw gallu ymatebol wedi ystyried tebygolrwydd digwyddiadau, argyfyngau a ‘siociau’ cymdeithasol annisgwyl.

back to top