Kay Carberry CBE

Rhagfyr 5, 2006 cyhoeddwyd Kay Carberry yn gomisiynydd i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Apwyntiwyd Kay yn ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol y TUC yn Ionawr 2003, ar ôl bod y pennaeth cyntaf ar adran hawliau cydraddoldeb y TUC a sefydlwyd ym 1988. Fel pennaeth yr adran newydd, sefydlodd strwythurau cydraddoldeb newydd yTUC, yn cynnwys pwyllgorau arbenigol newydd a chynadleddau yn canolbwyntio ar faterion yn ymwneud âg anabledd a chyfeiriadedd rhyw, i atodi strwythurau sy wedi bodoli ers tro a sydd yn cynrychioli buddiannau’r gweithwyr benywaidd a’r bobl dduon. Mae’r cyrff cydraddoldeb hynny y TUC wedi arwain cefnogaeth y TUC dros yr undebau llafur yn eu gwaith i atal gwahaniaethu, hyrwyddo cydraddoldeb a diogelu buddiannau’r gweithwyr benywaidd a’r lleiafrifoedd difreintiedig.

Fel cynrychiolydd y TUC, mae Kay wedi cymryd rhan mewn datblygu polisi cyhoeddus ar draws ystôd o feysydd ac mae wedi gwasanaethu ar nifer o gyrff cynghorol y llywodraeth ar gydraddoldeb, addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Yn y blynyddoedd diweddar, mae hyn wedi cynnwys aelodaeth o grwpiau sydd yn canolbwyntio ar amrywiaeth oedran, cydbwysedd gwaith a byw, cefnogaeth rhieni ac ymfudiad. Mae wedi bod yn gomisiynydd y Comisiwn Cyfle Cyfartal ers 1999 ac roedd yn aelod o’r Comisiwn Menywod a Gwaith a adroddodd i’r prif weinidog yn Chwefror 2006 gyda’r argymhellion i gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau o fewn cenhedlaeth.

Mae hi’n ymddiriedolwr o ‘Deuluoedd Un Rhiant’, ‘Amgueddfa Hanes y Bobl’, ‘y Sylfaen Gwaith’ ac yn aelod o'r Cyngor Ffrainc-Prydain.

back to top