Trevor Phillips

Ar Fedi’r 8fed 2006, cyhoeddwyd Trevor Phillips yn gadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol newydd a fabwysiadodd gwaith y tri comisiwn cydraddoldeb a fodolai ar y pryd ym Mhrydain, ar Hydref 1af 2007.

Fe apwyntiwyd Trevor yn gadeirydd y CCH ar Fawrth 1af .

Wedi’i eni yn Llundain ym 1953, mynychodd Trevor ysgol eilradd yn Georgetown, Guyana, ac yna astudiodd cemeg yng Ngholeg Ymerodrol Llundain. Rhwng 1978 a 1980 roedd yn lywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr. Yna bu’n gweithio yn y byd darlledu, a daeth yn bennaeth ar faterion cyfoes yn LWT ym 1992. Gwobrwyd ddyfaldaliadau i Trevor gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol ym 1988, 1993 a 1998.

Etholwyd ef yn aelod o Awdurdod Llundain Fwyaf ym mis Mai 2000, a daeth yn gadeirydd y Cynulliad yn ddiweddarach yn y mis hwnnw.

Mae Trevor yn gyfarwyddwr ‘Pepper Productions’, a sefydlwyd ym 1995, ac roedd yn  gynhyrchydd gweithredol ar Windrush (a ddyfarnwyd yn gyfres ddogfen y flwyddyn gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol  ym 1998), ‘Britain’s Slave Trade’, ‘Second Chance’ a ‘When Black Became Beautiful’. Mae e’n is-lywydd y Gymdeithas Deledu Frenhinol.

Ar hyn o bryd, mae e’n aelod bwrdd o theatr yr Almeida yn Islington, ‘Aldeburgh Productions’ a Chanolfan Bernie Grant yn Tottenham. Mae e’n noddwr y Gymdeithas ‘Sickle Cell’. Rhwng 1993 a 1998, roedd Trevor yn gadeirydd Ymddiriedolaeth ‘Runnymede’.

Yn ychwanegol i lawer o erthyglau papur newydd a darnau sylwadau, mae Trevor wedi ysgrifennu ’ Windrush: The Irresistible Rise of Multiracial Britain’ar y cyd â Mike Phillips a gyhoeddwyd ym 1998, a ‘Britain’s Slave Trade’ gyda S.I.Martin, a gyhoeddwyd y flwyddyn wedyn.

back to top