Gorffennaf

  • Comisiwn yn helpu gweithiwr Post Brenhinol i ennill hawliad Tribiwnlys

    31 July 2012

    Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi helpu gweithiwr, a oedd wedi chwythu’r chwiban ar hiliaeth, i ennill ei hawliad yn erbyn y Post Brenhinol o wahaniaethu. Heddiw, setlodd Mr Abdul Musa ar swm anhysbys o iawndal, ar ôl i’r Comisiwn ariannu ei achos a’i gynrychiolu yn y tribiwnlys cyflogaeth. Cytunodd y tribiwnlys ym Manceinion fod Mr Musa yn cael ei erlid yn y gwaith a’i fod wedi’i ddiswyddo’n annheg gan ei gyflogwr oherwydd iddo ddatgelu ymddygiad hiliol ei gydweithwyr. Casglodd fod y rheolwyr yn y depo yn Blackburn yn gwybod am yr achosion o hiliaeth, ond iddynt beidio â chymryd camau i ddiogelu Mr Musa.
     

  • Ymateb y Llywodraeth i’r Ymchwiliad i Aflonyddu ar sail Anabledd

    19 July 2012

    Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn croesawu ymateb y Llywodraeth i’n Hadroddiad O’r Golwg yng Ngolwg Pawb. Rydym yn falch ei bod wedi cytuno â rhan fwyaf o’n hargymhellion.

  • Comisiwn yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon

    16 July 2012

    16 Gorffennaf 2012

    Heddiw, cyhoeddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon am 2011/12.  Rhoddodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol farn archwilio ddiamod eto ar gyfrifon y Comisiwn am eleni.

  • Arweiniad newydd yn egluro hawliau mamolaeth a cholli swydd

    12 July 2012

    Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac Acas wedi cyhoeddi arweiniad newydd i helpu cyflogwyr i ddeall hawliau menywod sy’n feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth ac sy’n wynebu colli swydd. Mae’r arweiniad newydd, ‘Rheoli colli swydd o ran cyflogeion sy’n feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth’, yn amlinellu beth mae’r gyfraith yn ei dweud ac yn rhoi cyngor ar sut i drin y sefyllfa’n briodol.