Comisiwn yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon

16 July 2012

16 Gorffennaf 2012

Heddiw, cyhoeddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon am 2011/12.

Rhoddodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol farn archwilio ddiamod eto ar gyfrifon y Comisiwn am eleni.

Dros y 12 mis a gwmpasir yn yr adroddiad, mae llwyddiannau’r Comisiwn yn cynnwys:

  • Yr asesiad ffurfiol cyntaf erioed o adolygiad gwariant lywodraeth, lle buom yn gweithio mewn partneriaeth â Thrysorlys Ei Mawrhydi ac adrannau eraill o’r llywodraeth i asesu a oedd penderfyniadau ynglŷn â gwariant yn ateb gofynion cyfreithiol ac yn rhoi’r gwerth gorau am arian.
  • Ymchwiliad o bwys i’r system gofal cartref yn Lloegr a ddatgelodd dystiolaeth a oedd yn peri pryder fod y driniaeth wael o gryn nifer o bobl oedrannus yn torri eu hawliau dynol. Ymunodd y Comisiwn â’r Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC) i lunio canllaw cydraddoldeb a hawliau dynol i arolygwyr gofal.
  • Yr ymchwiliad fwyaf erioed i aflonyddu ar sail anabledd a ddatgelodd fod diwylliant o anghrediniaeth yn atal awdurdodau cyhoeddus rhag taclo aflonyddu neu gamdriniaeth yn effeithiol er bod cannoedd ar filoedd o bobl anabl yn eu dioddef yn gyson.
  • Ymchwiliad i fasnachu mewn pobl yn yr Alban a arweiniodd i gyfres o ddeg casgliad ac argymhellion a luniwyd i wneud yr Alban yn amgylchedd mwy gelyniaethus i fasnachwyr mewn pobl.  
  • Ymgymryd â chamau cyfreithiol carreg filltir a oedd yn rhoi fwy o ddiogelwch rhag gwahaniaethu ac a oedd yn egluro'r gyfraith i fusnesau bach, yn ogystal â sefydliadau ac unigolion eraill.
  • Fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol y Cenhedloedd Unedig, cyhoeddodd y Comisiwn adolygiad manwl ar gyflwr hawliau dynol yng Nghymru a Lloegr a monitro cydymffurfedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig â’i rhwymedigaethau rhyngwladol.
  • Yn ystod y flwyddyn, dechreuodd y Comisiwn raglen ailstrwythuro uchelgeisiol a bydd y Comisiwn o ganlyniad yn gweithio mewn partneriaeth â’r sectorau preifat a chyhoeddus mewn dull fwy galluogol a fydd yn hyrwyddo i’r eithaf ein gwerth i’r cyhoedd. Hefyd, o ganlyniad i’r ailstrwythuro, bydd nifer y staff yn cael ei gwtogi i oddeutu 150.

Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i gyflawni fwy o werth am arian. Yn 2011/12 fe dorrodd bron i 70 y cant o’i gostau teithio a  chynhaliaeth, 38 y cant o’i orbenion swyddfa; a 40 y cant o’i wariant ar staff dros dro. Mae’r gostyngiadau hyn yn ychwanegol i ostyngiad cyffredinol o 32 y cant o ran gwariant gweinyddol yn 2010/11.

Dywedodd Mark Hammond, Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

"Mae hyn wedi bod yn flwyddyn o lwyddiant i’r Comisiwn, gan inni gyflawni nifer o brosiectau’n llwyddiannus i hyrwyddo a diogelu cydraddoldeb a hawliau dynol a helpu unigolion a sefydliadau i weithio’n well â’r amgylchedd economaidd a chyfreithiol sy’n newid a’i ddeall yn well.

"Bydd y newidiadau i’r Comisiwn yr ydym yn eu rhoi ar waith yn ein gwneud yn fwy hyblyg ac yn gwella ein gallu i addasu i natur y gymdeithas o’n hamgylch sy’n newid. O ganlyniad i’r gwaith hwn, credaf y bydd y Comisiwn mewn lle delfrydol i gymryd rhan wrth ddiogeli a hyrwyddo hawliau dynol, rhoi cymorth o ran adfer yr economi a chyflawni’r gwerth gorau am yr arian a gawn gan drethdalwyr."

Diwedd

Am fwy o wybodaeth i’r wasg, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar 020 3117 0255, y tu allan i oriau gwaith 07767 272 818.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol cysylltwch â llinell gymorth genedlaethol y Comisiwn: Cymru 0845 604 8810, Yr Alban 0845 604 5510 a Lloegr 0845 604 6610.

Nodiadau i olygyddion

Ceir Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn yn: http://www.equalityhumanrights.com/about-us/corporate-reporting/annual-reports

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff statudol a sefydlwyd dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2006. Ef yw’r eiriolwr annibynnol dros gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain. Ei nod yw lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, cryfhau perthynas dda rhwng pobl, a hyrwyddo a diogelu hawliau dynol. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorfodi deddfwriaeth gydraddoldeb ar oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, rhyw, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol, ac yn annog  cydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Rhydd hefyd gyngor a chyfarwyddyd i fusnesau, y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, ac i unigolion.