16 July 2012
16 Gorffennaf 2012
Heddiw, cyhoeddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon am 2011/12.
Rhoddodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol farn archwilio ddiamod eto ar gyfrifon y Comisiwn am eleni.
Dros y 12 mis a gwmpasir yn yr adroddiad, mae llwyddiannau’r Comisiwn yn cynnwys:
Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i gyflawni fwy o werth am arian. Yn 2011/12 fe dorrodd bron i 70 y cant o’i gostau teithio a chynhaliaeth, 38 y cant o’i orbenion swyddfa; a 40 y cant o’i wariant ar staff dros dro. Mae’r gostyngiadau hyn yn ychwanegol i ostyngiad cyffredinol o 32 y cant o ran gwariant gweinyddol yn 2010/11.
Dywedodd Mark Hammond, Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
"Mae hyn wedi bod yn flwyddyn o lwyddiant i’r Comisiwn, gan inni gyflawni nifer o brosiectau’n llwyddiannus i hyrwyddo a diogelu cydraddoldeb a hawliau dynol a helpu unigolion a sefydliadau i weithio’n well â’r amgylchedd economaidd a chyfreithiol sy’n newid a’i ddeall yn well.
"Bydd y newidiadau i’r Comisiwn yr ydym yn eu rhoi ar waith yn ein gwneud yn fwy hyblyg ac yn gwella ein gallu i addasu i natur y gymdeithas o’n hamgylch sy’n newid. O ganlyniad i’r gwaith hwn, credaf y bydd y Comisiwn mewn lle delfrydol i gymryd rhan wrth ddiogeli a hyrwyddo hawliau dynol, rhoi cymorth o ran adfer yr economi a chyflawni’r gwerth gorau am yr arian a gawn gan drethdalwyr."
Diwedd
Am fwy o wybodaeth i’r wasg, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar 020 3117 0255, y tu allan i oriau gwaith 07767 272 818.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol cysylltwch â llinell gymorth genedlaethol y Comisiwn: Cymru 0845 604 8810, Yr Alban 0845 604 5510 a Lloegr 0845 604 6610.
Ceir Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn yn: http://www.equalityhumanrights.com/about-us/corporate-reporting/annual-reports
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff statudol a sefydlwyd dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2006. Ef yw’r eiriolwr annibynnol dros gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain. Ei nod yw lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, cryfhau perthynas dda rhwng pobl, a hyrwyddo a diogelu hawliau dynol. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorfodi deddfwriaeth gydraddoldeb ar oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, rhyw, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol, ac yn annog cydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Rhydd hefyd gyngor a chyfarwyddyd i fusnesau, y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, ac i unigolion.