19 July 2012
19 Gorffennaf 2012
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn croesawu ymateb y Llywodraeth i’n Hadroddiad O’r Golwg yng Ngolwg Pawb. Rydym yn falch ei bod wedi cytuno â rhan fwyaf o’n hargymhellion.
Rydym ar hyn o bryd yn adolygu ei hymateb manwl law yn llaw ag ymatebion bron i 50 o sefydliadau a chyrff cenedlaethol eraill. Byddwn yn adrodd arnynt yn ein hadroddiad Maniffesto ar gyfer Newid a gyhoeddir yn yr hydref.
Dywedodd Mike Smith, Comisiynydd i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: "Rydym wedi treulio llawer o amser yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i gael eraill i ymgymryd â pherchenogaeth ar fynd i’r afael â’r materion a’r heriau anodd sy’n codi yn ein Hymchwiliad. Yr hyn sydd yn fwyaf pwysig yw ein bod eisoes wedi dechrau ar y broes o newid."